MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

19
MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG Blwyddyn 1 2015/16

Transcript of MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Page 1: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG

Blwyddyn 1 2015/16

Page 2: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

This bookletThis booklet lists the Welsh-medium / bilingual modules that are available to first year students in 2015/16.

Students can learn Welsh as part of their degree course or follow Welsh courses outside their formal studie

BASIC WELSH (these modules are not suitable for students who have gained a pass in Welsh GSCE second language)

YHC 1891  10 credits over 1 semester

YHC 1394  20 credits over 2 semesters

INTERMEDIATE WELSH

YHC 1893  10 credits over 1 semester

YHC 1393  20 credits over 2 semesters

If you are not able to follow modules through the medium of Welsh, but would like to learn / improve your Welsh during your time at Bangor, there are many opportunities for you to do so including an evening class specifically for students.  This is a 10 week course held on Wednesday evenings, 5 – 7pm starting on 30/9/15.

For more information, please contact Bethan Glyn on [email protected] or 01248 388083

CYMDEITHAS LLYWELYN Why not join Cymdeithas Llywelyn, the society for students who are learning, or who would like to learn, Welsh?Contact: [email protected]

CYMORTH CYMRAEG / HELP WITH WELSHYou will find useful resources on the Cymorth Cymraeg website, which contains useful templates, sound files etc, that have been developed to help staff and students use Welsh at the University: www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg

Y llyfryn hwnMae’r llawlyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth am fodiwlau Cymraeg neu ddwyieithog sydd ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn 2015/16. Mae’n debygol y bydd rhai newidiadau ac ychwanegiadau i’r ddarpariaeth a nodir yma. Dylech gadarnhau pa fodiwlau sydd ar gael wrth i chi gofrestru yn ystod yr wythnos groeso. Fe fydd cynrychiolwyr yr ysgolion academaidd yn hapus iawn i ymateb i unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r modiwlau sy’n cael eu cynnig ganddynt.

Bwrsariaethau Astudio trwy’r Gymraeg Fel rhan o’i hymdrech i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg, mae Prifysgol Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo’r rheini sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs, neu’r cwrs cyfan, trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am yr amodau llawn, gweler www.bangor.ac.uk/studentfinance/info/welshbursary.php.cy

Page 3: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

WYTHNOS GROESO 2015 DIGWYDDIAD PWYSIG!Ffair astudio a gweithgareddau cyfrwng CymraegDydd Llun, Medi 21 2015 Neuadd Powis 10-11.30am Mae’r ffair hon yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd yn gyfle i chi gyfarfod y darlithwyr sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddarganfod mwy am y modiwlau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog sydd ar gael i chi. Bydd stondinau gan wahanol gymdeithasau yn y ffair a bydd yn gyfle da i gwrdd â myfyrwyr newydd eraill sy’n siarad Cymraeg. Dewch yn llu!

1

Page 4: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Gwnewch yn fawr o’r cyfle!

• Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi

• Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithredu’n ddwyieithog

• Mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd

• Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa

PAM ASTUDIODRWY’R GYMRAEG?

Mae Bangor yn arwain mewn datblygiadau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Nod y Coleg yw:

• sicrhau mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg – mewn partneriaeth â’r prifysgolion

• ariannu, datblygu a hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer y dyfodol

• ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig

• cefnogi myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg

• cynyddu’r nifer o fyfyrwyr sy’n dewis astudio’r cyfan neu ran o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg

• datblygu modiwlau, cyrsiau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg

Mae Cangen Bangor o’r CCC wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg. Mae croeso cynnes i chi alw heibio i gael gwybodaeth am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor, neu i holi am wasanaethau cyfrwng Cymraeg. Yma, mae stiwdio fideo-gynadledda’r CCC, sydd wedi’i datblygu’n bwrpasol ar gyfer dysgu modiwlau ar y cyd â phrifysgolion eraill.

Ymaelodwch â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: www.colegcymraeg.ac.uk/cy/ymaelodi/colegcymraeg/

Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Manteisiwch ar y cyfle i astudio drwy’r Gymraeg!

www.bangor.ac.uk/ccc

www.colegcymraeg.ac.uk

@cangenbangor

@colegcymraeg

2 3

Page 5: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Datblygu SgiliauMae cyfleoedd i chi ddatblygu llawer o sgiliau tra yn y Brifysgol.

Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg CenedlaetholYn ystod eich cyfnod ym Mangor, byddwch chi’n cael cyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Dystysgrif yn cael ei derbyn gan lawer o gyflogwyr fel prawf o’ch gallu i weithio’n gywir ac effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn sesiynau arbennig bydd tiwtoriaid Canolfan Bedwyr yn eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau iaith cyffredinol a’ch paratoi chi ar gyfer arholiad y Dystysgrif.

sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk

Cyswllt: Siân Esmor [email protected]

Uned Gloywi Iaith Canolfan BedwyrMae Canolfan Bedwyr yn cynnig darpariaeth i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, mae’r Ganolfan yn cynnig y modiwl Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg.

CCB1001 Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg Semester 1 10 credyd

Nod y modiwl hwn yw codi hyder llafar ac ysgrifenedig myfyrwyr yn y Gymraeg. Bydd hyn o gymorth i chi wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eich prif bynciau, ac yn eich paratoi at y byd gwaith dwyieithog.Cyswllt: Eleri Hughes [email protected]

Undeb Myfyrwyr BangorLlywydd: Fflur Elin

Helo, fy enw i yw Fflur Elin a fi yw llywydd undeb myfyrwyr Bangor. Dwi’n rhan o dîm o bump swyddog sabothol sy’n gweithio i chi er mwyn ceisio sicrhau eich bod chi’n cael y profiad myfyriwr gorau posib ym Mangor.

Mae rhywbeth yn digwydd yn yr undeb drwy’r flwyddyn, ac mae yna lwyth o ffyrdd i chi gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau. Yr undeb sy’n rhedeg clybiau a chymdeithasau’r brifysgol ac mae llwyth ar gael, o glybiau athletau i gaiacio, ac o gymdeithasau drama i sŵoleg. Mae nhw i gyd am ddim, ac rydyn ni’n gallu eich cludo chi at, ac yn ôl, o weithgareddau. Yma yn yr undeb rydyn ni hefyd yn cynnig dros 750 o gyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned leol, gydag ystod eang o brosiectau megis rhedeg sesiynau i blant gydag awtistiaeth, rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu lanhau traethau. Mae hefyd modd ymwneud â’n hochr ddemocrataidd trwy sawl gwahanol ffordd. Ar frig yr agenda eleni bydd ymgyrchu am etholiadau cynulliad Cymru sy’n digwydd

ym mis Mai. Byddwn ni’n annog pobl i gofrestru i bleidleisio, lobïo pleidiau gwleidyddol ar agweddau sydd yn berthnasol i fyfyrwyr fel addysg a’r bwrdd iechyd, ac yn ceisio lledaenu’r neges am bŵer llais myfyrwyr.

Rydyn ni hefyd yn rhedeg ymgyrchoedd er mwyn ceisio gwella bywyd myfyrwyr yn y brifysgol. Mae rhai o’n prif ymgyrchoedd yn ymwneud â thai a gwella safon byw, y gymuned a gwella’r berthynas rhwng y brifysgol a’r gymuned leol, ac yn gweithio i gael tegwch a chydraddoldeb i bob myfyriwr yn y brifysgol. Rydyn ni eisiau i gymaint o fyfyrwyr â phosib fod yn rhan o’n hymgyrchoedd a gweithio gyda ni i newid Bangor er gwell. A chofiwch, os oes gyda chi rywbeth yr ydych chi eisiau ei weld yn newid, rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud hynny felly peidiwch oedi - dewch i drafod eich syniadau gyda ni.

Os oes gyda chi gwestiynau am unrhyw agwedd ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud, cysylltwch. Gallwch chi weld sawl ffordd i gysylltu ar ein gwefan www.myfyrwyrbangor.com neu gallwch chi e-bostio fi ar [email protected] , anfon neges ar facebook i Bangor Pres neu dewch lan i’n gweld ni yn yr undeb.

Cefnogi’ch astudiaethauCanolfan Sgiliau AstudioMae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a gynlluniwyd i hwyluso symud i’r Brifysgol ac i’ch helpu i elwa o’ch astudiaethau.

I wneud apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan bangor.ac.uk/studyskills;

Ffoniwch ni ar 01248 382689; neu dewch i Adeilad Rathbone.

Mae’r gwasanaethau i gyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymorth CymraegEdrychwch hefyd ar www.bangor.ac.uk/ cymorthcymraeg sy’n llawn o adnoddau iaith defnyddiol.

Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB)Yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr, mae UMCB yn undeb arbennig i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg. Llywydd UMCB yw Ifan James.

Cysylltwch ag Ifan i ddarganfod mwy am y llu o weithgareddau y mae UMCB yn eu trefnu.

[email protected]: UMCBTwitter: @UMCB1

4 5

Page 6: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r CyfryngauUXC1062 Y Ddelwedd Symudol 20 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi’r ddelwedd symudol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi a dehongli’r modd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scène, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno enghreifftiau o’r pynciau dan sylw.

Bydd y ffilmiau a ddangosir yn cynnwys: A Man Escaped (Bresson, 1956), The Innocents (Clayton, 1961), City of God (Meirelles, 2002), Atonement (Wright, 2007), Bourne Ultimatum (Greengrass, 2007), The Red Shoes (Powell & Pressburger, 1948), a Moulin Rouge! (Luhrman, 2001).

UXC1001 Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol 20 credyd Semester 1

Dyma fodiwl sy’n cyflwyno’r myfyrwyr i fyd newyddiaduraeth. Byddant yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu creadigol a ffeithiol, y sgiliau gwahanol sydd angen arnynt a sut i gynllunio straeon ffeithiol.

Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, sut i gynhyrchu straeon eu hunain a sut i olygu eu gwaith yn ogystal. Elfen bwysig o hyn fydd dysgu sut i ymchwilio straeon. Bydd nifer o dasgau ganddynt i’w cwblhau a fydd yn eu hannog i fynd allan i gyfweld pobl ‘go iawn’ a sut i ddewis a dethol y dyfyniadau gorau. Erbyn diwedd y modiwl byddant hefyd wedi cysylltu gyda golygyddion amrywiol gyhoeddiadau i geisio cyhoeddi eu gwaith.

UXB1043 Perfformio ar y Llwyfan a’r Sgrin 20 credyd, dwyieithog Semester 1

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar rai o’r elfennau a’r technegau allweddol sydd yn rhan o’r broses o hyfforddi actorion. O’r seicolegol i’r corfforol ac i’r lleisiol, bydd y

myfyrwyr yn archwilio amryw o ddulliau actio a pherfformio a ddefnyddir gan gyfarwyddwyr cyfredol mewn ystafelloedd ymarfer heddiw, gan ddadansoddi’r cymariaethau rhwng perfformio ar y llwyfan a pherfformio ar y sgrin.

UXB1055 Cyfathrebu Digidol 20 credyd, dwyieithog Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i syniadau allweddol ac ysgolheictod cyfredol ynghylch y berthynas rhwng technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd y myfyrwyr yn ystyried beth ydy gwybodaeth, a sut y mae’n cael ei chreu, ei mesur, ei gwerthfawrogi, ei phrynu, ei gwerthu, ei darparu, rhannu a’i chyfathrebu. Edrychir hefyd ar yr effaith y mae’r cyd-destun digidol yn ei gael ar wybodaeth. Bydd y modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth bellach ym mlynyddoedd 2 a 3 yn y cyfryngau newydd, dylunio rhyngweithiol a chyfathrebu ac astudiaethau gemau.

UXC1038 Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau 20 credyd Semester 2

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i’r sgiliau a’r technegau sylfaenol fydd yn eu galluogi i archwilio egwyddorion cynhyrchu’r cyfryngau trwy waith creadigol ym maes ffilm a radio. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i gynhyrchu dau destun cyfryngau byr, gan ddefnyddio offer darlledu safonol. Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi eu gwaith eu hunain yng nghyd-destun theori, gan greu cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cynhyrchu’r cyfryngau.

UXB1043 Diwylliant y Cyfryngau 20 credyd, dwyieithog Semester 2

Mae’r cwrs yn gyflwyniad i astudio ffurfiau, testunau a systemau’r cyfryngau, ynghyd â’u cyfraniad at fywyd cymdeithasol. Mae’n dechrau archwilio ehangder astudiaethau’r cyfryngau trwy ganolbwyntio ar y ffyrdd y mae’r cyfryngau’n bwysig. Ym mha ffyrdd y mae’r cyfryngau’n cyfrannu at ffurfio hunaniaeth unigol ac at arferion pob dydd, a pha mor arwyddocaol ydynt o ran hynny?

Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru.

Mae Bangor yn cynnig mwy o gyrsiau a chyfleoedd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru.

Y GYMRAEG YM MHRIFYSGOL BANGOR

Dyma’r modiwlau Cymraeg/dwyieithog sydd ar gael i chi yn eich blwyddyn gyntaf yn 2015/16

6 7

Page 7: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Yn y byd cyhoeddus, i ba raddau y mae’r cyfryngau’n allweddol i ddarparu gwybodaeth a galluogi’r drafodaeth sy’n angenrheidiol i gynnal democratiaeth? Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i feithrin eich profiadau eich hunain o’r cyfryngau fel cwsmeriaid a defnyddwyr.

UXB1120 Dyfeisio Theatr 20 credyd, dwyieithog

Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar rai o’r elfennau a’r safbwyntiau gwahanol sydd yn cyfrannu tuag at y broses o greu a gwylio perfformiad. Gan ddadansoddi amrywiaeth o enghreifftiau, bydd modd ystyried heriau a photensial perfformio cyfres o ddarnau unigol. Gan ddibynnu ar y deunydd o dan sylw, gallai hyn olygu gwaith darllen cyd-destunol hanesyddol chofiannol, yn ogystal ag o fewn meysydd eraill perthnasol.

Cyswllt : Geraint Ellis [email protected]

Ysgol Athroniaeth a ChrefyddMae’r modiwlau canlynol ar gael yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg:

VPC1101 Arweiniaid i Athrawiaeth a Chrefydd 20 credyd Semester 1

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o’r sgiliau a’r syniadau allweddol sy’n sail i astudio athroniaeth a chrefydd yn academaidd. Bydd y modiwl wedi’i rannu’n ddwy elfen. Bydd y gyntaf yn canolbwyntio ar hanes athroniaeth ac astudiaethau crefyddol fel disgyblaethau, yn ogystal â rhai o’r dadleuon allweddol yn y meysydd pwnc. Bydd ail elfen y modiwl yn canolbwyntio ar y sgiliau astudio sydd eu hangen i gyflawni gwaith yn y ddisgyblaeth. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau ymchwil a pharatoi ar gyfer gwahanol fathau o asesu.

VPC1105 Moeseg:Agweddau Crefyddol 20 credyd Semester 2

Bydd y modiwl yn dechrau gyda thrafodaeth ar darddiad moeseg a bydd yn edrych ar beth o’r deunyddiau perthnasol i’r pwnc sydd wedi goroesi o ddiwylliannau mawr Mesopotamia a’r Aifft (yn cynnwys storïau am arwyr a ymgorfforai’r rhinweddau a edmygid fwyaf, a’r codau cyfreithiol a ddiffiniai ymddygiad derbyniol ac annerbyniol). Bydd y modiwl wedyn yn archwilio gwerthoedd moesegol y grefydd Iddewig, fel yr adlewyrchir hwynt yn yr Hen Destament, a gwerthoedd moesegol y traddodiad Cristnogol, fel yr adlewyrchir hwynt yn y Testament Newydd. Yn dilyn hynny ceir golwg gyffredinol ar faterion moesegol sy’n gysylltiedig â’r traddodiad Bwdistaidd. Daw’r modiwl i’w derfyn drwy edrych ar ddamcaniaeth foesegol ‘gorchymyn dwyfol’, a bydd yn ystyried i ba raddau y dylid uniaethu daioni moesol ag ewyllys Duw neu orchymyn Duw.

VPC1108 Athroniaeth a/mewn Llên 20 credyd Semester 2

Mae’r cwrs yn cyflwyno syniadau allweddol megis: llafaredd a llythrennedd; genre a mimesis; gwirionedd llenyddol; yr awdur a bwriadoledd; gwleidyddiaeth a chyfrynged; cenedlaetholdeb; ffeministiaeth; iaith lenyddol a throsiadol. Edrychwn ar destunau gan feddylwyr megis Platon, Aristoteles, Hegel, Coleridge, Nietzsche, Heidegger, Benjamin, de Man, Derrida, yn ogystal â gweithiau sydd yn ‘llenyddol’ mewn ffordd fwy amlwg. Darllenwn weithiau yn Gymraeg lle byddant ar gael.

VPC1111 Athroniaeth Foesol/ Gwleidyddol 20 credyd Semester 2

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o’r cwestiynau allweddol ym maes athroniaeth foesol a gwleidyddol. Bydd yn ymchwilio i nifer o themâu gwahanol, o’r natur ddynol, cyfiawnder, a natur moesoldeb i faterion mwy diweddar megis gender a thlodi byd-eang. Cyflwynir y pynciau hyn gan fwyaf trwy waith rhai o’r athronwyr pwysicaf yn y canon, o Blaton a Hobbes i Marx a Rawls, gan roi ymdeimlad i’r myfyrwyr o hanes athroniaeth y gorllewin. I’r diben hwn, yn ogystal â mynd i’r afael â chwestiynau

COLEG ADDYSG A DYSGU GYDOL OES

athronyddol penodol, bydd y modiwl yn ceisio amlygu parhad a thoriad yn hanes syniadaeth y gorllewin, a natur oesol rhai cwestiynau am fodolaeth y ddynolryw.

VPC2210 Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder 20 credyd Semester 1

Mae dau brif nod i’r modiwl hwn. Y cyntaf yw astudio’r cysyniadau cenedlaetholdeb, crefydd a chymuned yn athroniaeth meddylwyr Cymreig mawr yn y 20fed ganrif, gan gynnwys Henry Jones, DZ Phillips a JR Jones. Yr ail yw edrych ar sut a ddatblygwyd eu syniadau yng nghyd-destun tueddiadau athronyddol ehangach, ac felly i’w hastudio a’u dadansoddi yn y cyd-destun deallusol ehangach. Yn benodol, mae’r modiwl yn trafod ac yn dadansoddi tair ysgol gorllewinol o feddwl athronyddol: Delfrydiaeth Brydeinig, Athroniaeth Wittgensteinaidd a Dirfodaeth. Bydd hefyd yn gyfle i ystyried ysgolion mwy diweddar o feddwl, megis ôl-foderniaeth ac ôl-drefedigaethedd, a’u perthnasedd i’r Gymru gyfoes. Bydd myfyrwyr felly yn cael y cyfle unigryw i astudio rhai o’r syniadau mwyaf dylanwadol ym meddwl y Gorllewin yn ddiweddar, tra’n ystyried eu goblygiadau i Gymru.

VPC2216   Llên a Chrefydd 20 credyd  Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar lenyddiaeth grefyddol un o’r cyfnodau pwysicaf a mwyaf cyffrous yn hanes Cymru. Rhoddir sylw i effaith y Diwygiad Protestannaidd ar y traddodiad llenyddol Cymraeg, gan osod hanes cyhoeddi cyfieithiadau Cymraeg o’r Beibl mewn cyd-destun cymdeithasol a llenyddol ehangach. Edrychir ar waith Piwritaniaid yr ail ganrif ar bymtheg, gan ganolbwyntio ar ryddiaith Gymraeg Morgan Llwyd yn benodol. Bydd y cyfan yn gyfle i ystyried y berthynas rhwng diwylliant crefyddol Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill yn ogystal ag archwilio’r modd y mae’r llenyddiaeth grefyddol hon yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod.

Cyswllt: Dr Eryl Wynn Davies [email protected]

Ysgol CerddoriaethWXC1001 Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin (anrhydedd sengl)

40 credyd Semester 1 a 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y Gorllewin yn y cyfnodau Baróc, Clasurol a Rhamantaidd: o darddiad yr opera tua 1600 i’r genhedlaeth o gyfansoddwyr ar ôl Wagner.

WXC1002 Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin ca. 1600-ca.1900 (cydanrhydedd)

20 credyd Semester 1 a 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y gorllewin yng nghyfnod y baróc, clasurol hyd at yr oes ramantaidd: o darddiad yr opera tua 1600 hyd at gyfnod Wagner.

WXC1004 Harmoni a Gwrthbwynt 20 credyd Semester 1 a 2

Astudiaeth o gerddoriaeth y Gorllewin rhwng 1700 a 1830, gan ganolbwyntio ar gyfnod y Baróc a’r Clasurol. Ceir cyfle i astudio sgorau ac ymarferion cysylltiedig mewn dirnad clywedol er mwyn arsylwi a barnu cerddoriaeth donyddol yn finiocach.

WXC1007 Y Cyfryngau a Cherddoriaeth Boblogaidd 10 credyd Semester 2

Cyflwyniad i’r diwylliant a’r diwydiant pop yw’r modiwl hwn, ynghyd â dadansoddi’r ffactorau cymdeithasol sy’n creu cerddoriaeth boblogaidd; dyfodiad roc a rôl, arddulliau pop; practis diwylliannol ei chynulleidfa; hunaniaeth a pherthynas diwylliannau â’i gilydd a datblygiad canu pop yng Nghymru ers 1960.

WXC1011 Cyfansoddi 20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i dechnegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi.

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

8 9

Page 8: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

WXC1012 Technoleg Cerdd Ymarferol 10 credyd Semester 1

Gan ddechrau gyda’r dybiaeth nad oes gan yr unigolyn unrhyw brofiad blaenorol mewn technoleg cerddoriaeth, nod y modiwl hwn fydd rhoi i’r myfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i raddedigion yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.

WXC1016 Perfformio Unawdol 20 credyd Semester 1 a 2

Hyfforddiant unigol ar gyfer llais neu offeryn. Cytunir ar raglen arfaethedig o astudiaethau technegol, repertoire a deongliadol gyda’r tiwtor ar y cychwyn. Cynhelir gwrandawiad ar ddechrau’r semester.

WXC1006 Diwylliannau Cerdd Byd-eang 20 credyd Semester 1 a 2

Golwg ar draddodiadau cerddorol amrywiol (rhai gwerinol, ‘clasurol’ a phoblogaidd) sy’n gysylltiedig ag ardaloedd penodol o’r byd, yn ogystal â’r astudiaeth o offerynnau cerdd. Nid oes angen profiad blaenorol o’r maes, dim ond y gallu i werthfawrogi cerddoriaeth o ddiwylliannau gwahanol.

Cyswllt : Dr Owain Llwyd [email protected]

Ysgol Dysgu Gydol Oes YSE1500 Deall Cymuned 20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn arwain y dysgwr at well dealltwriaeth o natur y gymuned. Mae’n edrych ar y berthynas rhwng ffactorau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n effeithio ar gymunedau ac yn eu llywio. Bydd y dysgwr yn gallu cynnal dadansoddiad integredig sylfaenol o gymunedau, a defnyddio damcaniaethau yn ei ddealltwriaeth o gymunedau.

YCE1107 Cynefin a Chymuned 30 credyd Semester 1

Edrychir yn amlddisgyblaethol ar gynefin a chymuned gan bwysleisio’r berthynas rhwng elfennau daearegol, daearyddol, hanesyddol, economaidd, cymdeithasegol a diwylliannol. Hynny yw, persbectif integredig, crwn ar y byd o’n cwmpas gyda phwyslais ar agweddau cysyniadol a haniaethol yn ogystal â’r disgrifiadol. Bydd yn tanio diddordeb mewn dysgu’n barhaol, yn cynnwys datblygiad personol a grŵp, datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno a’r gallu i ymgysylltu eraill yn y broses dysgu. Ar gael fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac ar ffurf heb ei achredu.

Cyswllt : Shân Ashton [email protected]

Ysgol y GymraegCXC1016 Llenyddiaeth Gyfoes 10 credyd Semester 1 a 2

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu traethodau a thrafod ar lafar drwy ganolbwyntio ar ddetholiad o weithiau gan awduron cyfoes fel Caryl Lewis, Mihangel Morgan a Gerallt Lloyd Owen. Fe’i dysgir drwy gyfuniad o sesiynau hyfforddi, darlithoedd cyflwyniadol a seminarau.

CXC1004 Yr Iaith ar Waith 10 credyd Semester 1 a 2

Modiwl ymarferol ei bwyslais sy’n anelu at godi hyder myfyrwyr wrth arfer y Gymraeg yn ysgrifenedig. Mewn cyfres o ddosbarthiadau eglurhaol, trafodir y modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Dysgir drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau.

CXC1001 Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol 10 credyd Semester 2

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau beirniadol myfyrwyr. Ceir cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Bydd y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol a chanolbwyntir ar gyfres o astudiaethau manwl o gerddi a darnau rhyddiaith unigol.

CXC1019 Rhyddiaith yr Oesoedd Canol 10 credyd Semester 1

Cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur.

CXD1016 Sgriptio Teledu 20 credyd Semester 1

Yn y modiwl hwn, dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript ar gyfer y teledu. Bydd pum cam i’r gweithgaredd hwn (i) trafod gofynion teledu fel cyfrwng dramatig; (ii) cyflwyno

braslun ysgrifenedig o thema’r ddrama; (iii) llunio braslun o blot y ddrama ynghyd â dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau sydd ynddi; (iv) rhannu’r plot yn olygfeydd; (v) llunio’r ddeialog a chael cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny.

CXC1018 Gweithdy Creadigol 20 credyd Semester 2

Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol.

CXC1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar 20 credyd semester 1 a 2

Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar - cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.

CXD1013 Theatr Fodern Ewrop 20 credyd Semester 2

Yn y modiwl hwn, astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd a’r ail ran yn trafod yr adwaith i ddatblygiad y ddrama fodernaidd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

10 11

Page 9: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Modiwlau Cymraeg – Ail IaithCXC1007 Cymraeg Llafar 20 credyd Semester 1 a 2

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Bydd cyfle i astudio rhai o weithiau llenyddol pwysicaf yr ugeinfed ganrif, e.e. Te yn y Grug gan Kate Roberts, Blodeuwedd gan Saunders Lewis, Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis. Dysgir drwy gyfres o seminarau a bydd pwyslais yn y modiwl ar ddatblygu sgiliau llafar.

CXC1005 Ysgrifennu Cymraeg 20 credyd Semester 1 a 2

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu darn byr o Gymraeg yn rheolaidd. Gosodir tasgau o natur ffeithiol (e.e. crynodeb neu fwletin newyddion) a hefyd greadigol (e.e. stori fer neu bortread). Dysgir drwy gyfres o seminarau a bydd pwyslais y modiwl ar ymarfer ysgrifennu’n raenus ac yn gywir.

CXC1008 Llên a Llun 10 credyd Semester 1

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Bydd cyfle i astudio pedwar gwahanol genre drwy gyfrwng enghreifftiau diweddar, e.e. casgliad o gerddi, nofel, drama deledu a ffilm. Dysgir drwy gyfres o seminarau.

CXC1006 Golwg ar Lenyddiaeth 10 credyd Semester 1

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Yn ystod y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar rai o uchafbwyntiau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, e.e. barddoniaeth Taliesin, Aneirin a Dafydd ap Gwilym a rhyddiaith Pedair Cainc y Mabinogi. Dysgir drwy gyfres o seminarau.

Cyswllt : Yr Athro Gerwyn Wiliams [email protected]

Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac ArchaeolegHXC1007 Cymru: Tywysogion i Duduriaid 20 credyd Semester 1

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o’r datblygiadau pwysicaf yn hanes Cymru o ‘Oes y Tywysogion’ i’r cyfnod modern cynnar. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ymdrech wleidyddol a chyflawniadau’r teuluoedd brenhinol brodorol, yn cynnwys ymdrechion i sefydlu tywysogaeth Cymru, cyn mynd ymlaen i edrych ar fudiad Owain Glyndŵr ac, yna, ar y newidiadau gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol a welwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r modiwl felly’n arweiniad i gyfnod allweddol yn hanes y Gymru gyn- ddiwydiannol, gan roi sylw’r un pryd i faterion canolog sy’n ymwneud ag astudio cymdeithasau canol oesol a modern cynnar yn gyffredinol.

HXC1006 Cymru yn y Byd Modern 20 credyd Semester 2

Amcan y modiwl hwn yw cynnig arolwg cynhwysfawr o hanes Cymru yn y cyfnod modern, gan ddangos sut y bu i Gymru adlewyrchu’r cyfnewidiadau enfawr a gafwyd yng ngwareiddiad gwledydd y gorllewin. Trafodir effeithiau diwydiannu a threfoli, argyfyngau rhyfel, apêl syniadau gwleidyddol amrywiol, newidiadau diwylliannol ac arwyddocâd cydberthynas ryngwladol. Mae’r modiwl felly yn olrhain trawsnewidiad Cymru o gyfnod y chwyldro diwydiannol ymlaen i ddyfodiad datganoli ddiwedd yr ugeinfed ganrif, a thu hwnt i hynny.

HXC1009 Rhyfel, Cymdeithas a’r Cyfryngau Semester 2

Bwriad y modiwl hwn yw archwilio’r gwahanol ffyrdd y siapwyd cymdeithasau ar draws Ewrop, America ac Asia gan ryfeloedd yr ugeinfed ganrif. Bydd prif ffocws y modiwl ar impact rhyfel ar gymdeithas a diwylliant, gyda golwg benodol ar rôl technoleg a’r modd y portreadir rhyfel ar y cyfryngau. Ymhlith eraill, bydd trafodaeth ar y Rhyfel Byd Cyntaf, Rhyfel Cartref Sbaen, yr Ail Ryfel Byd, y Rhyfel Oer, Rhyfel Vietnam,

Rhyfel y Gwlff, chwalfa Iwgoslafia a 9/11. Fodd bynnag, nid golwg ryfel-wrth-ryfel o reidrwydd a ddarperir ar y modiwl, ond yn hytrach un thematig, a rhai o’r testunau a archwilir fydd y ffrynt cartref, propaganda, hil-laddiad, rhywedd, dioddefwyr, terfysgaeth, heddychiaeth, rhyfel a’r meddwl a threftadaeth rhyfel. Gwneir defnydd nodedig o ffilm, clipiau sain, hanes llafar a blogiau. Cynhelir darlithoedd y modiwl yn Saesneg, ond darperir terminoleg Gymraeg, a bydd gweithdai a seminarau cyfrwng Cymraeg ar gael yn wythnosol. Gellir cyflwyno gwaith ar y modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

HCC1050 Datguddio’r Gorffennol 20 credyd S emester 1

Pwrpas y modiwl yw eich helpu i ddechrau astudio Hanes yn y brifysgol, a’ch helpu i wneud rhan o’ch astudiaethau trwy’r Gymraeg. Bydd yn eich cyflwyno i sylfeini pwysicaf gwaith academaidd ac yn eich dysgu chi sut i astudio, cyflwyno ac ysgrifennu am y gorffennol ar lefel gradd. Yn gyntaf, bydd yn eich cyfarwyddo i ddeall y dulliau gwahanol o ddysgu sy’n hanfodol ar gyfer astudio Hanes yn y brifysgol, ac yn rhoi cymorth i chi ddeall beth yw seminarau a beth sy’n cyfiawnhau marciau traethawd. Yn ail, bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau astudio craidd, megis defnyddio erthyglau cyfnodolion, deall llyfrgell y brifysgol a pharatoi ar gyfer traethodau a chyflwyniadau. Yn drydydd, bydd yn esbonio sut mae haneswyr yn archwilio’r gorffennol trwy ffocysu ar eu dadleuon a’u hanghytundebau, ac yn archwilio i fathau gwahanol o ffynonellau cynradd a’u defnydd gan ysgolheigion. Byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd mewn grwpiau bach i greu portffolio sgiliau a fydd yn cael ei ehangu o wythnos i wythnos a bydd yn sylfaen i’ch marc.

Modiwlau gyda grwpiau seminar CymraegBydd darlithoedd y modiwlau hyn yn Saesneg, gyda’r opsiwn i ymuno â grŵp seminar Cymraeg. Fel ar ein holl fodylau, cewch gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis.

HXC1001 Apocalypse ThenHXC1003 Birth of Modern Europe

Cyswllt: Dr Euryn Rhys Roberts [email protected]

Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau ModernLCF1001 Sgiliau Iaith Ffrangeg 20 credyd Semester 1 a 2

Yn yr wythnosau cyntaf, byddwn yn cadarnhau ‘blociau adeiladu’ yr iaith ysgrifenedig (rhannau ymadrodd, cenedl enwau, cytundeb gramadegol ayyb), yn ogystal â chyflwyno’r prif werslyfr, sef En bonne forme. Yna, bydd y dosbarthiadau’n cael eu rhannu rhwng darllen a thrafod testunau yn Ffrangeg, cyfieithu i’r Ffrangeg ac o’r Ffrangeg, a chael adborth ar aseiniadau.

LCF1002 Sgiliau Cyfathrebu Ffrangeg 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn mynd law yn llaw â LCF1001, ac mae’n canolbwyntio ar sgiliau llafar a gwrando’r myfyrwyr. Yn ogystal â dosbarthiadau sgwrsio traddodiadol, a gwaith yn seiliedig ar arddweud, mae pytiau o raglenni teledu Ffrangeg yn cyflwyno’r myfyrwyr i Ffrangeg fel y caiff ei siarad go iawn heddiw gan siaradwyr brodorol o amrywiaeth o gefndiroedd. Cynhelir y gwersi llafar gyda siaradwr brodorol.

LCF1003 Ffrangeg i Ddechreuwyr 1 20 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn addas i ddechreuwyr ynghyd â myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg at TGAU. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Bydd y myfyrwyr yn dysgu rhannau allweddol o ramadeg (yr amser presennol a’r gorffennol, y dyfodol a’r amodol, enwau, ansoddeiriau, arddodiaid) ynghyd â geirfa gyffredinol ac ymadroddion allweddol. Gan ddefnyddio adnoddau sain/gweledol, bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddiwylliant a chymdeithas Ffrainc heddiw. Cynhelir gwersi llafar gyda siaradwr brodorol.

LCF1004 Ffrangeg i Ddechreuwyr 2 20 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi cwblhau LCF1003. Nod y modiwl yw datblygu’r

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

12 13

Page 10: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

sgiliau sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn dod â hwy i lefel sy’n cyfateb i Lefel A. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio a datblygu’r egwyddorion gramadeg a ddysgwyd yn semester 1 wrth ysgrifennu darnau mwy estynedig. O ran datblygu sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn trafod mwy yn yr iaith darged. Caiff sgiliau gwrando eu datblygu trwy ymarferion tâp sain a fideo, a chynhelir gwersi llafar gyda siaradwr brodorol.

LCG1001 Sgiliau Iaith Almaeneg 20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau darllen a deall y myfyrwyr drwy astudio testunau mewn amrywiol ddulliau a chyweiriau ac yn galluogi myfyrwyr i aralleirio testunau yn yr Almaeneg. Bydd yn galluogi myfyrwyr i gyfieithu testunau o’r Almaeneg ac i’r Almaeneg, ac i ysgrifennu darnau ar lefel gymharol uchel, e.e. traethodau byr. Bydd yn ehangu geirfa Almaeneg, ac yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o’r prif elfennau gramadegol yn yr Almaeneg gyfoes, a’r gallu i’w defnyddio mewn ymarferion gramadeg a thraethodau. Bydd y cwrs yn seiliedig ar wahanol bynciau, a atgyfnerthir trwy ymarfer prif elfennau gramadegol yr Almaeneg.

LCG1003 Almaeneg i Ddechreuwyr 1 20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i gystrawennau sylfaenol yr Almaeneg, gan eu cyfarwyddo’n arbennig â rôl agweddau gramadegol yn yr Almaeneg megis cenedl, ffurfdro a threfn geiriau. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i greu a thrin brawddegau sylfaenol ac i ddarllen a deall testunau syml yn yr Almaeneg a datblygu geirfa sylfaenol. O ran sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn ymarfer seinyddiaeth yr Almaeneg a chyflwyno pynciau syml yn yr Almaeneg. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw Neue Horizonte.

LCG1004 Almaeneg i Ddechreuwyr 2 20 credyd Semester 2

Amcan canolog y modiwl yw datblygu dealltwriaeth sylfaenol y myfyrwyr o’r iaith Almaeneg ac o strwythurau gramadegol mwy cymhleth. Mae sgiliau ysgrifenedig y myfyrwyr yn cael eu datblygu drwy gyfieithu testunau byr i’r Gymraeg neu’r Saesneg, a

drwy ysgrifennu darnau mwy datblygedig yn Almaeneg megis traethodau byr a llythyrau. Hefyd, gall myfyrwyr ddarllen a deall testunau canolradd yn Almaeneg ac ehangu eu geirfa. O ran sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau clywedol canolradd a magu hyder mewn seinyddiaeth Almaeneg yn ogystal â deall ac ymateb i faterion mwy cymhleth ar lafar yn Almaeneg. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw Neue Horizonte.

LCG1002 Sgiliau Cyfathrebu Almaeneg 20 credyd Semester 1 a 2

Drwy gyfuno ymarferion monolog a deialog, gwrando a thrafodaethau, bydd y cwrs yn anelu at wella dealltwriaeth a medrusrwydd ar lafar y myfyrwyr ac at gynyddu hyder wrth siarad Almaeneg. Bydd siaradwyr Almaeneg mamiaith yn dysgu’r cwrs mewn grwpiau bach. Byddan nhw’n defnyddio recordiau clywedol a fideo o raglenni Almaeneg er mwyn cyflwyno pynciau newydd ac amryw acennau Almaeneg i’r myfyrwyr.

LCE1600 Hanes a Diwylliant Ewrop 20 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn archwilio newidiadau allweddol yn hanes, syniadaeth a diwylliant Ewrop o 1789 i’r cyfnod modern. Cynigir amlinelliad o hanes a datblygiad Ewrop ac anogir y myfyrwyr i ddadansoddi diwylliant Ewropeaidd a pherthnasedd cyfnodau hanesyddol pwysig i’r datblygiad hwnnw. Mae’r modiwl yn cynnig arolwg o fudiadau allweddol yn syniadaeth a diwylliant Ewrop, yn ogystal â digwyddiadau hollbwysig ‘Ewropeaidd’ sydd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at hanes y byd. Mae’r modiwl yn darparu sail hollbwysig er mwyn gallu astudio diwylliant a hanes gwledydd Ewrop mewn dyfnder a manylder a byddwn yn cyfeirio at ystod o ffurfiau diwylliannol: llenyddiaeth, celf, delweddau a ffilm.

Cyswllt: Dr Edith Gruber [email protected] Sian Beidas [email protected]

Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith SaesnegQCL1017 Y Gymraeg a Chymdeithas 20 credyd Semester 1

11 x darlith 2 awr + 5 x tiwtorial 1 awr

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau cymdeithasol a sosioieithyddol o’r iaith Gymraeg a’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru. Gan mai amrywiaeth iaith fydd y prif ffocws, bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae’r Gymraeg yn amrywio yn dibynnu ar bethau fel arddull, ardal ddaearyddol, gwahanol grwpiau cymdeithasol, gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol, ayyb. Ceir ffocws arbennig ar astudio tafodieithoedd y Gymraeg, gan gymharu amrywiadau gogleddol a deheuol, er enghraifft, ac archwilio’r modd y gall y Gymraeg newid yn y dyfodol, gan gynnwys materion yn gysylltiedig â marwolaeth iaith. Bydd myfyrwyr yn darganfod sut mae sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn cymharu â sefyllfaoedd ieithoedd eraill ledled y byd, yn enwedig ieithoedd lleiafrifol. Trafodir hanes y Gymraeg a’i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd eraill megis Cernyweg, Llydaweg a Gwyddeleg. Bydd cyfle hefyd i edrych ar ddwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymraeg, a sut mae Cymru’n wahanol neu debyg i wledydd dwyieithog eraill y byd. Ceir hefyd ddarlithoedd am y diaspora Cymreig ym Mhatagonia ac am addysg Gymraeg ddoe a heddiw.

QCL1145 Disgrifio’r Gymraeg 20 credyd Semester 2

11 x darlith 2 awr + 5 x tiwtorial 1 awr

Modiwl sylfaenol yw hwn sydd yn cyflwyno nifer o gysyniadau creiddiol astudio strwythur ieithyddol Cymraeg cyfoes, ac erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu trafod a dadansoddi’r iaith Gymraeg o sawl safbwynt gramadegol mewn modd ieithyddol ac ysgolheigaidd. Canolbwyntir ar agweddau mwyaf nodweddiadol yr iaith lafar anffurfiol (yn hytrach na Chymraeg ffurfiol), a bydd myfyrwyr yn edrych ar agweddau o’r Gymraeg megis y system sain (ffonoleg a seineg), y gystrawen (trefn y geiriau), y dull y mae geiriau’n cael eu categoreiddio (rhannau ymadrodd), strwythur fewnol geiriau (morffoleg) a’r geiriau eu hunain (yr eirfa). Cawn drafod agweddau o ramadeg gwahanol dafodieithoedd y Gymraeg hefyd. Bydd myfyrwyr yn ystyried effaith dwyieithrwydd ar y Gymraeg, gan gynnwys y broses o gymysgu geiriau Cymraeg a Saesneg yn yr un frawddeg (cyfnewid cod). Yn olaf, bydd myfyrwyr yn edrych ar y cysyniad o newid iaith yn y Gymraeg gyfoes, gan ofyn a yw’r Gymraeg yn colli rhai o’i nodweddion ieithyddol unigryw drwy ddylanwad y Saesneg, ac ystyried sut (neu os) bydd y Gymraeg yn newid yn y dyfodol o ran ei gramadeg.

Cyswllt : Dr Peredur Webb-Davies [email protected]

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

14 15

Page 11: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Ysgol AddysgXAC1024 Chwarae Plant 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn gwerthuso damcaniaethau chwarae a’u goblygiadau ar gyfer deall sut mae plant bach yn dysgu. Mae’n edrych ar y llenyddiaeth ar greadigedd a’i gysylltiadau â chwarae a dysgu. Ymchwilir i’r berthynas rhwng y celfyddydau creadigol a chreadigedd mewn meysydd dysgu perthnasol eraill. Mae’n datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o swyddogaeth y dychymyg wrth ddatblygu meddwl a sut mae plant bach yn dysgu trwy chwarae. Bydd angen i fyfyrwyr sy’n astudio’r modiwl hwn drefnu lleoliad byr yn ystod Semester 2.

XAC1026 Sgiliau ar gyfer Dysgu 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn cynorthwyo myfyrwyr i ddysgu’n effeithiol ac i ddatblygu ystod o sgiliau allweddol a sgiliau trosglwyddadwy yng nghyd-destun eu harddulliau a’u dulliau personol. Mae’n galluogi myfyrwyr i ganfod eu cryfderau a’u gwendidau presennol wrth osod targedau personol fel rhan o’r broses o ddod yn ddysgwr annibynnol. Bydd yn canolbwyntio ar y sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig sydd eu hangen i wneud rhaglen radd, ac ar helpu myfyrwyr i ddeall eu hymddygiad dysgu ac ymddygiad dysgu pobl eraill er mwyn ennill cymhelliant a hyder.

XAC1027 Plant, Diwylliant a Moeseg 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar arwyddocâd amrywiaeth diwylliannol, gwerthoedd, moesau a chredoau a’u pwysigrwydd wrth ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plant. Mae’n ymchwilio i’r credoau a’r arweiniad moesegol penodol a gynigir gan rai crefyddau yn y byd a hefyd yr arweiniad moesegol a gynigir gan rai diwylliannau. Mae’r modiwl yn ystyried strategaethau sy’n meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plentyn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddefnyddio llenyddiaeth plant berthnasol i hyrwyddo’r ymwybyddiaeth hon.

XAC1033 Seicoleg Plant 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn craffu ar ddatblygiad seicolegol cynnar plant o’u geni hyd at y blynyddoedd cynnar. Mae’n nodi’r cerrig milltir yn natblygiad cynnar plentyn ac yn tanlinellu’r ffactorau sy’n hyrwyddo datblygiad. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr arsylwi datblygiad plant ifanc mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar priodol, yn enwedig mewn perthynas â chymdeithasu a rhyngweithio ag eraill, a dadansoddi eu tystiolaeth yn erbyn y prif gerrig milltir datblygu.

XAC1034 Iechyd, Ffitrwydd a Lles 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn ystyried cyfraniad arweiniad llywodraeth ac asiantaethau cenedlaethol perthnasol mewn datblygu iechyd a ffitrwydd plant a phobl ifanc yng nghyd-destun diet ac ymarfer. Ei nod yw dadansoddi cyfraniad gweithgarwch corfforol, chwaraeon a diet tuag at hyrwyddo iechyd, ffitrwydd a diddordeb plant a phobl ifanc. Edrychir yn fanwl ar strategaethau i annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Dewisir a chreffir ar weithgareddau corfforol gan danlinellu negeseuon allweddol o ran iechyd a chyfranogiad, gan gynnwys dulliau pedagogaidd o addysgu a hyfforddi plant a phobl ifanc. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni gweithgareddau sy’n addas i blant a phobl ifanc.

XAC1035 Plant a Chymdeithas 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaeth gymdeithasegol plentyndod, ac yn trafod sut y mae cysyniadau a dealltwriaethau plentyndod yn cael eu pennu’n gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Archwilir y syniadau hyn gan drafod agenda hawliau plant a’r dadleuon cymdeithasol a chyfreithiol sy’n deillio ohoni. Ystyrir a gwyntyllir y cysyniad bod plentyndod yn y Deyrnas Unedig ‘mewn argyfwng’ trwy drafod ffactorau megis y cyfryngau, addysg, technoleg, rhwydweithio cymdeithasol, teuluoedd a grwpiau cyfoed.

Cyswllt : Anwen Roberts [email protected]

COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG a GWYDDORAU CYMDEITHAS

Ysgol BusnesGellir astudio’r flwyddyn gyntaf yn ei chyfanrwydd naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

ACB1104 Cyflwyniad i Farchnata 10 credyd Semester 2

Cyflwyniad i natur marchnata fel swyddogaeth busnes, gyda’r prif bwyslais ar sut i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn broffidiol. Rhannu a thargedu’r farchnad trwy strategaethau effeithiol a phenderfyniadau priodol ynglŷn â chynnyrch, pris, dosbarthu a hyrwyddo.

ACB1112 Cyflwyniad i Economeg 20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i ddwy brif golofn economeg, sef Meicroeconomeg (elfennau unigol o’r economi: pobl, cwmnïau, a’r rhyngweithio rhyngddynt), a Macroeconomeg (ymddygiad yr economi yn ei chyfanrwydd). Bydd cynnwys y modiwl yn bwrw golwg ar:

• Galw a chyflenwad, a gweithrediad y farchnad;

• Cynhyrchu a chostau; • Effeithlonrwydd economaidd;• Strwythurau marchnad a chystadleuaeth;• Sustemau economaidd gwahanol;• Methiannau’r farchnad; Nwyddau cyhoeddus,

ymyrraeth gan y llywodraeth:• Strwythurau marchnad a chystadleuaeth;• Diweithdra, trethi, polisi cyhoeddus; • Arian a chwyddiant; • Tŵf economaidd• Arbenigedd a mantais gymharol• Theoriau clasurol a Keynesaidd.

ACB1200 Sgiliau Astudio Busnes 10 credyd Semester 1

Cyflwyno amrywiaeth o sgiliau astudio busnes pwysig a sgiliau Technoleg Gwybodaeth (TG), yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cymryd nodiadau, dadansoddi data sylfaenol, cyfathrebu, gwaith grwp, cyflwyniadau ac ymwybyddiaeth o gyflogadwyedd.

ACB1110 Cyfrifeg Rheolaeth/ Cyfrifeg Ariannol 20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i rôl cyfrifeg wrth wneud penderfyniadau ac wrth reoli o fewn sefydliad. Mae’r prif bwyslais ar ddadansoddi ymylol, costio, cyllidebu, a chyfrifeg rheoli. Yn ogystal, ceir cyflwyniad i sgiliau sylfaenol cyfrifeg, a sut i ddatblygu gwell dealltwriaeth o theori, cysyniadau, a chonfensiynau cyfrifeg. Astudir dulliau mesur, ac adrodd, sefyllfa a pherfformiad ariannol sefydliad, ynghyd â pharatoi cyfrifon cwmni.

ACB1106 Cyfrifeg Rheolaeth  10 credyd   Semester 1

Cyflwyniad i rôl cyfrifeg rheolaeth yn ystod gwaith penderfynu a rheoli tu mewn i sefydliad, gyda’r prif bwyslais ar ddadansoddiad ymylol, costiad llawn, costiad ar sail gweithgareddau, cyllidebu, a chyfrifeg i reoli.

Ar gyfer y modiwlau isod, bydd y darlithoedd yn Saesneg ond bydd y tiwtorialau ar gael drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg:

ADB1202 Marchnadoedd a sefydliadau ariannol 10 credyd Semester 2

Rhoi golwg ar natur offerynnau ariannol, marchnadoedd ariannol a chyfryngwyr ariannol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y busnes bancio.

ADB1101 Dulliau Meintiol 20 credyd Semester 1 a 2

Datblygu sgiliau mathemateg hyd at lefel sy’n galluogi defnydd o dechnegau meintiol mewn ystod eang o weithgareddau busnes ac economeg.

ADB1103 Cyflwyniad i Fusnes/ Rheolaeth 10 credyd Semester 1

Trafodir theoriau rheoli cyfundrefnau, agweddau ar reolaeth adnoddau dynol megis ymddygiad unigolion a grwpiau, strwythur cyfundrefnau, cymhelliant ac arweinyddiaeth. Yn ogystal, rhoddir pwyslais ar adnabod a deall newidiadau yn amgylchedd allanol busnes, a sut mae hyn yn effeithio ar agweddau mewnol.

Cyswllt : David James [email protected]

16 17

Page 12: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG a GWYDDORAU CYMDEITHAS

Ysgol y GyfraithSCL1115 Y Gyfraith yn Gymraeg 20 credyd Semester 1

Amcan y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfreithiol sylfaenol law yn llaw â meithrin sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg. O ganlyniad, mae’r modiwl yn cynnwys elfen gref o hybu sgiliau ymchwil gyfreithiol, a bydd pwyslais yn cael ei roi ar gywirdeb ieithyddol y tasgau hyn, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgrifennu Cymraeg cyfreithiol graenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar iaith lafar gywir ac addas i’r cywair. Ceir cyfle i ymarfer sgiliau a fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr wrth ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynol, crynhoi, trawsieithu). Rhan bwysig o’r modiwl fydd paratoi at y cyflwyniad llafar lle ceir cyfle i gyflwyno elfen benodol ar y gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a’u sgiliau ieithyddol trwy gyfrwng ymarferion ar Y Porth.

Ar gyfer y modiwlau isod bydd y darlithoedd ffurfiol yn Saesneg ond bydd y tiwtorialau ar gael drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dewis y myfyriwr. Ar gyfer myfyrwyr Ysgol y Gyfraith yn unig mae’r modiwlau isod.

SXL1110 Cyfraith Gyhoeddus 20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i’r myfyriwr o nodweddion a rhinweddau’r cyfansoddiad. Bydd cyfraith gyfansoddiadol yn ymdrin â meysydd y prif sefydliadau, deddfau ac arferion yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn edrych ar y rheolau, sy’n rheoleiddio prif gyrff llywodraeth a’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth.

SXL1112 Cyfraith Contract 20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn rhoi sylfaen i’r myfyriwr sy’n rheoli ffurfio a gorfodi contractau (addewid, derbyn a chytundeb) meysydd gallu, bwriad, cyfreithlondeb a sicrwydd telerau.

SXL1113 Cyflwyniad i’r Gyfraith 20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr, gan roi fframwaith i astudio ‘Beth yw’r Gyfraith’, sut mae’r system yn gweithredu a’r system mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae’r modiwl yn edrych ar fframwaith y llysoedd, sifil a throseddol, y farnwriaeth, cyfreithwyr a rôl ac arwyddocâd cyfranogiad lleygion yn y system (ynadon, rheithgorau ac aelodau tribiwnlysoedd) a datblygu Deddf Hawliau Dynol.

SXL1115 Sgiliau Cyfreithiol 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau astudio cyfreithiol ymarferol megis: ysgrifennu nodiadau effeithiol, ysgrifennu traethodau cyfreithiol, datrys problemau cyfreithiol, cyflwyno dadl, achosion llys ffug, gweithio mewn tîm, rheoli amser yn effeithiol, technegau adolygu, etc. Caiff myfyrwyr eu dysgu i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn effeithiol i ymchwilio i’r gyfraith, darllen y gyfraith, llunio dadl lafar ac amddiffyn dadl gyfreithiol a dadansoddi a gwerthuso’r gyfraith yn ddwyieithog.

Cyswllt: Gwilym Owen [email protected]

Ysgol Gwyddorau CymdeithasSCU1001 Sgiliau Ymchwil 20 credyd Semester 1

Mae Sgiliau Ymchwil yn fodiwl rhagarweiniol sydd yn disgrifio natur ymchwil empeiraidd mewn gwyddorau cymdeithas. Mae’n trafod yr amrediad o ddulliau ymchwil sydd ar gael i gymdeithasegwyr a’r tybiaethau athronyddol sydd yn sail i’w gwaith. Cynlluniwyd y modiwl o gwmpas nifer o weithdai, a bydd yn rhoi ichi brofiad ymarferol mewn nifer o feysydd ymchwil, gan gynnwys chwilio am wybodaeth, dadansoddi cynnwys, arsylwi a chynllunio holiaduron.

SCP1002 Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol 20 credyd Semester 1 a 2

Ystyrir beth yw polisi cymdeithasol a thrafodir syniadau a chysyniadau allweddol yn y maes. Cyflwynir ideolegau gwahanol mewn perthynas â lles cymdeithasol a rôl y wladwriaeth, a rhoddir ystyriaeth i sut mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llunio, eu gweithredu a’u cyllido.

SCS1004 Cymdeithaseg a’r Byd Cyfoes 20 credyd Semester 1

Ceir cyflwyniad i’r prif theorïau cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau ffwythiannaeth a theori gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a’u gwaith arloesol mewn ffurfio theorïau cymdeithasegol cynnar. Yna, edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso’r theorïau a’r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, gwaith a dosbarth cymdeithasol.

SCY1004 Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn eich cyflwyno at faes trosedd a chyfiawnder troseddol. Trafodir theorïau a themâu allweddol a ddefnyddir i egluro ymddygiad troseddol sy’n cynnwys esboniadau clasurol i’r rhai mwyaf cyfoes; y mesurau a ddatblygwyd i atal trosedd, ynghyd â gorolwg o’r system gyfiawnder troseddol sy’n cynnwys prif asiantaethau cyfiawnder troseddol, datblygiad hanesyddol, strwythur ac atebolrwydd y system.

SCY1006 Cyflwyniad i Gynllunio Ieithyddol 20 credyd Semester 2

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i faes cyffredinol Cynllunio Ieithyddol yng Nghymru drwy ddiffinio, nodi pwrpas a chynnig cyd-destun cyfreithiol i ieithoedd lleiafrifol. Cyflwynir sfferau trosglwyddo iaith am y tro cyntaf i fyfyrwyr gan nodi pwysigrwydd y teulu, y gymuned, y system addysg a’r gweithle wrth drosglwyddo ieithoedd lleiafrifol.

Cyswllt : Dr Myfanwy Davies [email protected] Rhian Hodges [email protected]

18 19

Page 13: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

COLEG GWYDDORAU NATURIOL

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a DaearyddiaethMae croeso i fyfyrwyr ddilyn unrhyw fodiwl ychwanegol sydd ddim ar y rhestr hon lle mae darlithydd sy’n siarad Cymraeg yn cyfrannu tuag at y dysgu.

ONC1001 Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol 20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i sgiliau astudio a datblygiad galluoedd llafar ac ysgrifenedig yng nghyd- destun sgiliau cyflwyno a methodoleg amgylcheddol/hamdden. Mae’r modiwl yn cynnwys asesiad parhaus mewn Technoleg Gwybodaeth.

DXC1303 Methodoleg Maes 10 credyd Semester 2

Modiwl ymarferol sy’n cynnwys uned maes preswyl ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe. Mae’r modiwl yn datblygu sgiliau a thechnegau maes Daearyddol ac Amgylcheddol. Mae’n gyfle gwych i gydweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda myfyrwyr o sefydliadau eraill yng Nghymru. Nid oes arholiad gyda’r modiwl: bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy gynhyrchu portffolio. Mae’r modiwl yn cyflwyno’r ystod o sgiliau sydd eu hangen ar wyddonwyr a daearyddwyr modern. Mae’n cynnwys darllen am faterion cyfoes penodol, gan gynnwys cynaladwyedd. Bydd dosbarthiadau rheolaidd (gyda hyd at 5 myfyriwr ym mhob dosbarth) yn cael eu cynnal gyda thiwtor addas yn dibynnu ar y cwrs gradd. Bydd elfen gref o greu cynllun datblygu personol a datblygu sgiliau ysgrifennu a chyflwyno llafar. Bydd yn gyfle da i feithrin hyder a sgiliau amlbwrpas. Mae lefel y credydau yn ddibynnol ar ba fodiwlau eraill mae myfyrwyr unigol yn dewis eu gwneud yn eu blwyddyn gyntaf.

DXC1006 Gwaith Maes – Creu Eryri 20 credyd Semester 2

Gwaith maes yn edrych yn uniongyrchol ar y prosesau daearegol, amgylcheddol a dynol sy’n cyfrannu tuag at dirlun, a strwythur cymunedol a diwydiannol Eryri.

DXC1004 Daearyddiaeth Dynol 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yma yn cyflwyno meddylfryd daearyddol i gysyniadau globaleiddio - gofod a lle, pobl ac amgylchedd, trefoli, tlodi a datblygu, hunaniaeth a gwahaniaeth, poblogaeth, mudo, ethnigrwydd a chenedlaetholdeb, a chynaladwyedd. Byddwn yn ystyried y berthynas eang ac integredig rhwng pobl a’u lle mewn amgylchedd naturiol, eu sefyllfa economaidd a gwleidyddol.

Cyswllt : Dr Paula Roberts [email protected]

Ysgol Gwyddorau BiolegolONC1001 Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol 20 credyd Semester 1 a 2

Dosbarthiadau yn ymwneud â sgiliau rhifedd, cyflwyno a llythrennedd gwyddonol.

BSC1018 Tiwtorialau Blwyddyn Un 10 credyd Semester 1 a 2

Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial, yn pwysleisio sgiliau ysgrifennu, rhifedd a dadansoddi. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau.

BNC1004 Bioleg y Gell a’r Moleciwl 20 credyd Semester 2

Dyma brif fodiwl yr Ysgol ar agweddau celloedd a moleciwlau bioleg, strwythur a gweithrediad celloedd – gyda phwyslais ar bilenni. Bioleg Foleciwlaidd a Biocemeg.

BSC1005 Cyflwyniad Meicrobioleg 10 credyd Semester 1

Cyflwyniad i agweddau ar ficrobioleg glinigol.

BSC1022 Ymarferion Bioleg 20 credyd Semester 1 a 2

Rhoi profiad o ystod o drefniadau a ddefnyddir mewn arbrofion ym maes bioleg gyfoes, o ymchwiliadau i foleciwlau a chelloedd i astudiaethau ar organebau ac ecosystemau cyfan.

Cyswllt: Yr Athro Deri Tomos [email protected]

Ysgol Gwyddorau MeddygolMSE1019 Ymarfer Da’r Labordy 10 credyd Semester 1

Yn y modiwl hwn cyflwynir amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig mewn gwaith labordy. Bydd darlithoedd a sesiynau ymarferol yn egluro cysyniadau’n ymwneud â materion iechyd a diogelwch, rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau. Caiff technegau labordy sylfaenol, a’r defnydd a wneir ohonynt, eu cynnwys a’u hasesu.

MSE1020 Ymarferion Biofeddygol 20 credyd Semester 1 a 2

Cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn y meysydd Biocemeg, Ffisioleg, Microbioleg a Geneteg. Ymweliadau ag ysbytai a chwmnïau priodol.

MSE1022 Cyflwyniad Meicrobioleg 10 credyd, Semester 1

Cyflwyniad i agweddau ar ficrobioleg glinigol.

Cyswllt: Merfyn Williams [email protected] Saunders Williams [email protected]

Ysgol Gwyddorau EigionONC1001 Sgiliau Ymchwil Rhagymadroddol 20 credyd Semester 1 a 2

Dosbarthiadau yn ymwneud â sgiliau rhifedd, cyflwyno a llythrennedd gwybodaeth.

OSC1000 Tiwtorial 1 20 credyd Semester 1 a 2

Sgwrsio am, a chyfathrebu egwyddorion a phroblemau gwyddonol. Defnyddio sgiliau ymchwil rhagymadroddol.

Cyswllt : Dr Katherine Griffith [email protected]

20 21

Page 14: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

COLEG GWYDDORAU IECHYD AC YMDDYGIAD

Ysgol Gwyddorau Gofal IechydModiwlau dwyieithog yw’r rhain o fewn y rhaglen Baglor mewn Nyrsio:

NAA1202 Datblygu NyrsioNAS1202 Oedolion 40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar rai o’r materion sylfaenol yn ymwneud â nyrsio oedolion gydol oes. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol ym maes nyrsio oedolion i ymwneud ag unigolion a’u teuluoedd, gan gymryd yr agweddau ffisiolegol a seicolegol i ystyriaeth, ynghyd â’r dylanwadau cymdeithasol a geir mewn gwahanol amgylcheddau gofal iechyd. I’ch paratoi i ddarparu ar gyfer anghenion oedolion byddwch yn treulio 50% o’r modiwl hwn mewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol fydd yn eich paratoi i ddarparu gofal nyrsio tosturiol ac urddasol i oedolion.

NLA1202 Ymreolaeth a chydraddoldeb 40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar gyd-destun darparu gwasanaethau i bobl gydag anabledd dysgu. Bydd hyn yn cynnwys ystyried datblygiad hanesyddol gwasanaethau a materion allweddol sydd wedi dylanwadu ar bolisi ac ymarfer presennol. Conglfaen y modiwl hwn yw ein gwerthoedd fel ymarferwyr, ynghyd â chynhwysedd a dinasyddiaeth, ac ymarfer gwrth-wahaniaethol. Cynigir ystod o gyfleoedd asesu, yn cynnwys asesiad adolygol ymarfer clinigol.

NAC1202 Gofal Iechyd 1 (Nyrsio)NSC1202 40 credyd Semester 1 a 2

Diben y modiwl hwn yw cyflwyno elfennau cyffredinol gwybodaeth a sgiliau y mae ar holl ymarferwyr gofal iechyd eu hangen, yn cynnwys egwyddorion gofal trawsffurfiol. Mae’r modiwl yn dechrau paratoadau i ymarfer gyda’r bwriad o roi sylfeini gwybodaeth a sgiliau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gyflawni disgwyliadau’r cyhoedd, cleientiaid a’r cyrff proffesiynol

perthnasol o ran cysylltiadau personol, cydnabod hawliau a rhwymedigaethau a rhoi gofal wedi’i seilio ar dystiolaeth.

NAC1204 Gwyddorau Dynol 1 (Nyrsio)NSC1204 40 credyd Semester 1 a 2

Diben y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o systemau’r corff, ynghyd â ffactorau sy’n dylanwadu ac effeithio ar iechyd, haint a salwch mewn cymdeithas. Byddwch yn datblygu gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg, seicoleg a chymdeithaseg, a’r modd y defnyddir y rhain mewn ymarfer gofal iechyd.

NMA1202 Cyflwyniad i Nyrsio Iechyd Meddwl 40 credyd Semester 1 a 2

Diben y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r gwerthoedd ac egwyddorion sy’n sail i ymarfer iechyd meddwl, sy’n rhoi gwerth ar amrywiaeth ac yn hyrwyddo adferiad. Caiff y myfyrwyr gyflwyniad i swyddogaethau craidd y nyrs iechyd meddwl o ran asesu a dulliau gofal iechyd a byddant yn ystyried y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu partneriaethau therapiwtig rhwng darparwyr gofal iechyd a defnyddwyr gwasanaethau. Cyflwynir strategaethau sy’n cefnogi arbenigedd wrth ymwneud â defnyddwyr gwasanaethau a phrofiad o hyrwyddo lles ac adferiad meddyliol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i’r afael â’r cysyniadau a’r materion pwysicaf sy’n gysylltiedig ag ymarfer nyrsio iechyd meddwl; cynigir amrywiaeth o gyfleoedd asesu, yn cynnwys asesiad crynodol o ymarfer clinigol.

Cyswllt: Dr Ruth Williams / Sharon Pierce / Beryl Cooledge [email protected] [email protected] [email protected]

Ysgol SeicolegPCC1001 Ysgrifennu a Chyfathrebu Gwyddonol I 20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn cynnig sail dda i fyfyrwyr mewn seicoleg sylfaenol, ac yn eu cyflwyno i wahanol feysydd o fewn seicoleg. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith yn y lle cyntaf, wedyn, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio ymhellach i’r deunydd, a hynny mewn grwpiau bychain. Byddant yn trafod erthyglau gwyddonol, rhaglenni dogfennol a materion cyfoes o bersbectif seicolegol, ac yn cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.

PCC1003 Ysgrifennu a Chyfathrebu Gwyddonol II 20 credyd Semester 2

Bydd y seminarau hyn yn cynnwys materion fel sylfeini biolegol ymddygiad, gwybyddiaeth, seicoleg gymdeithasol, seicoleg iechyd, a seicoleg glinigol. Bydd y materion yn cael eu cyflwyno ar ffurf darlith yn gyntaf, ac wedyn caiff y myfyrwyr drafod y materion gyda’i gilydd mewn grwpiau bychain. Bydd hyn yn datblygu eu dealltwriaeth o feysydd allweddol ym maes Seicoleg gan ddefnyddio iaith ffurfiol, ac yn datblygu eu sgiliau ysgrifenyddol gwyddonol.

PCC1002 Dulliau Ymchwil ac Ystadegau I 20 credyd Semester 1

Cyflwynir dulliau ymchwil â’u defnydd mewn Seicoleg yn y modiwl hwn. Byddwch yn dysgu sut i adolygu’r llyfryddiaeth; cynllunio arbrawf; ffurfiau casglu data; defnyddio pecyn meddalwedd SPSS; cyfrifo a dehongli dadansoddiadau ystadegol, a sut i gyflwyno canlyniadau ymchwil. Byddwch yn cydweithio mewn grwpiau bychain, ac yn helpu eich gilydd i gynllunio arbrawf a defnyddio technegau methodolegol Seicoleg.

PCC1004 Dulliau Ymchwil ac Ystadegau II 20 credyd Semester 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu sut i ddewis y prawf ystadegol cywir (prawf-t [t-test]), ANOVA, prawf chi-sgwâr [Chi-square]

etc) a chynllunio project ac adroddiad ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA. Byddwch hefyd yn deall pwysigrwydd materion moesegol ym myd Seicoleg. Bydd y modiwl yma yn ehangu eich dealltwriaeth o ymchwil seicolegol fel eich bod wedi’ch paratoi ar gyfer eich project yn yr ail flwyddyn.

Cyswllt: Dr Nia Griffith [email protected] Manon Jones [email protected]

Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac YmarferJXC1001 Sgiliau Ymchwil 20 credyd Semester 2

Mae’r modiwl dwbl gorfodol hwn yn cyflwyno’r sgiliau ymchwil hanfodol sydd eu hangen ar fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae’n cynnwys: ffyrdd y gall cwestiynau ymchwil mewn chwaraeon, iechyd ac addysg gorfforol gael eu gofyn a’u hateb, ystadegau disgrifiadol, ystadegau casgliadol elfennol, profi rhagdybiaeth, egwyddorion fesur; egwyddorion cynllunio ymchwil, y defnydd o gyfrifiaduron i ddadansoddi data; datblygu sgiliau ymchwil megis cael gafael ar wybodaeth, dadansoddi data a dehongli, a chyfathrebu ysgrifenedig. Bydd seminarau bach yn cael eu cynnal yn Gymraeg, gyda’r opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

JXC1017 Ffisioleg Dynol 20 credyd Semester 1 a 2

Nod y modiwl hwn yw rhoi i’r myfyrwyr y wybodaeth sylfaenol am ffisioleg dynol sy’n angenrheidiol i ddeall yr agweddau ffisiolegol o ymarfer corff a chwaraeon a drafodir mewn modiwlau dilynol. Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i’r ymatebion ffisiolegol acíwt i ymarfer a dulliau pathofisiologol mewn clefydau fel arfau ar gyfer deall ffisioleg dynol sylfaenol yn well ac fel sylfaen ar gyfer modiwlau yn y dyfodol. Bydd yr holl ddysgu ac addysgu yn cael ei gynnal yn Gymraeg gyda’r opsiwn o wneud rhannau ohonynt yn Saesneg.

22 23

Page 15: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

JXC1021 Sgiliau portffolio ac academaidd 10 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i wella eich sgiliau academaidd sylfaenol. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy, a byddant yn cefnogi eich sgiliau dysgu mewn modiwlau eraill:

• Sgiliau Llyfrgell;• Sut i beidio â llên-ladrata;• Darllen ac Ysgrifennu Academaidd;• Cyfeirnodi;• Rhifedd;• Sgiliau Cyflwyno;• Excel.

JXC1022 Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer 10 credyd Semester 2

Bydd pob darlithydd o fewn yr Ysgol yn cyflwyno ‘darlith gyhoeddus’ ar broject ymchwil israddedig y mae ef / hi wedi’i oruchwylio. Bydd y darlithoedd yn egluro beth yw eu diddordebau ymchwil a pham eu bod yn gyffrous ar lefel ddamcaniaethol / cymhwysol. Byddant hefyd yn egluro sut y maent yn cymryd rhan yn eu maes ymchwil, pa ddulliau ymchwil y maent yn eu defnyddio, a pha sgiliau y byddai eu hangen ar fyfyrwyr er mwyn ymgymryd ag ymchwil o’r fath. Yn ogystal, byddant yn esbonio sut y bu i’r myfyriwr drefnu a strwythuro’r project, cynllunio’r astudiaeth, a pherfformio a phrosesu’r data. Yn olaf, byddant yn dweud rhywbeth am y rhwystrau i ymchwil myfyrwyr o ansawdd uchel yn eu hardal. Ar y modiwl yma bydd cyflwyniadau gan staff ymchwil GCIY yn Saesneg ond, bydd yr holl ddysgu ac addysgu eraill yn cael ei gynnal yn Gymraeg gyda’r opsiwn dwyieithog.

JXC1024 Gweithgareddau ymarferol ar y tir 1 10 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio’n gadarn ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau antur diogel ar y tir. Yn ogystal â gweithgaredd ymarferol ceir sesiynau byrion yn y dosbarth gyda’r bwriad o atgyfnerthu’r gwaith paratoi

ac adfyfyrio dilynol sy’n gyson â datblygu dulliau ymarfer da o weithio yn yr awyr agored. Cyn bwysiced â sgiliau a gwybodaeth dechnegol, bydd nodweddion personol cyffredinol ymwybyddiaeth, barn ac agwedd sy’n galluogi unigolion i weithredu’n ddiogel mewn grŵp, a hynny mewn sefyllfaoedd a all fod yn beryglus. Y prif weithgareddau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwl hwn fydd cerdded mynyddoedd, dringo dan do, micro fordwyo a sgramblo mewn ceunentydd. Yn y modiwl hwn cynhelir y sesiynau ymarfer yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

JCX1025 Addysgu Gweithgareddau Campfa ac Athletau 10 credyd Semester 1

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio’n gadarn ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol ac ymwybyddiaeth dactegol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn chwaraeon. Amcanion y modiwl yw:

• Cynorthwyo myfyrwyr i feithrin y sgiliau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag ymarfer diogel mewn chwaraeon.

• Rhoi profiadau i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion chwaraeon.

• Datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r paratoi sy’n gydnaws â datblygu ymarfer da wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Yn y modiwl hwn cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

JXC1026 Pedagogeg 10 credyd Semester 2

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio’n gadarn ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn athletau, dawns, gymnasteg a nofio. Amcanion y modiwl yw:

• Galluogi’r myfyrwyr i feithrin y sgiliau sylfaenol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn athletau, dawns, gymnasteg a nofio.

• Rhoi profiadau er mwyn datblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion athletau, dawns, gymnasteg a nofio.

• Creu sefyllfaoedd er mwyn datblygu’r

nodweddion personol, generig sy’n galluogi unigolion i weithredu’n effeithiol fel unigolion ac fel aelod o grŵp.

Yn y modiwl hwn cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

JXC1027 Ymddygiad Seicomodurol 20 credyd Semester 1 a 2

Pwrpas y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddeall ymddygiad seicomodurol mewn perthynas â:

• Cymhelliant;

• Hunan-gysyniad;

• Hyder;

• Straen a phryder;

• Sgiliau seicolegol;

• Prosesu gwybodaeth ac amser ymateb;

• Cyfraniadau canolog a synhwyraidd i reoli modur;

• Sylw a gwybyddiaeth.

Bydd seminarau bach yn cael  eu cynnal  yn Gymraeg, gyda’r opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

JXC1040 Cyflwyniad i Wyddor Chwaraeon i Hyfforddwyr 10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i agweddau ar wyddor chwaraeon sy’n berthnasol i gymwysterau hyfforddi Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Bydd cynnwys y modiwl yn cynnwys sgiliau ymarfer adfyfyriol ac agweddau craidd ar wyddor chwaraeon sy’n berthnasol i hyfforddi sgiliau chwaraeon. Hynny yw, ymdrinnir ag elfennau cymhwysol ar seicoleg chwaraeon (e.e. cymhelliant a phennu amcanion), ffisioleg perfformio (e.e. cynllunio ymarfer a diet) a meithrin sgiliau (e.e. sylwadau). Bydd y darlithoedd yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gysyniadau damcaniaethol, tra bydd sesiynau seminar/ymarferol yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth hon i faes ymarferol hyfforddiant chwaraeon. Cynhelir seminarau bach yn Gymraeg, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Cyswllt: Eleri Jones [email protected]

COLEG GWYDDORAU IECHYD AC YMDDYGIAD

24 25

Page 16: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Ysgol CemegFXC1101 Cemeg 1 10 credyd Semester 1

Mae’r cwrs yn rhoi cyflwyniad cytbwys integredig i gemeg. Mae’r cwrs wedi ei rannu i dair rhan – a) Adeiledd a bondio, b) Bondio cofalent, siapiau moleciwlau, a’r tabl cyfnodol a chyfnodedd, c) Cemeg organig.

FXC1103 Cemeg 2 20 credyd Semester 2

Mae’r cwrs yn rhoi cyflwyniad cytbwys integredig i gemeg (fel dilyniant i Cemeg 1). Mae’r cwrs wedi ei rannu i bump rhan – a) Cemeg y metelau trosiannol, b) Adeileddau cyflwr solid, c) Thermodynameg, (ch) Cineteg, (d) Cemeg grwpiau gweithredol (synthesis ac adweithiau), Ocsidio a rhydwytho.

FXC1104 Ein Cemeg Ni 10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno prif ddosbarthiadau biomacrofoleciwlau a chyfansoddion naturiol sy’n actif yn feddyginiaethol a’r berthynas rhyngddynt. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys cyflwyniad i fiomacrofoleciwlau (ee proteinau, carbohydradau ac asidau niwclëig) cemeg grwpiau gweithredol cynhyrchion naturiol, astudiaeth achos o gyfansoddyn sy’n actif yn feddyginiaethol a chyflwyniad i adweithedd ym myd natur, gan gynnwys elfennau hybrin, cyd-ffactorau a fitaminau. Rhoddir pwyslais arbennig ar enghreifftiau o gemeg sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd.

FXC1105 Dulliau Offerynnol a Dadansoddol 20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn rhoi cyflwyniad i ddulliau offerynnol a ddefnyddir i ddadansoddi sylweddau a deunyddiau sy’n berthnasol i fyfyrwyr ar yr holl gyrsiau gradd sy’n seiliedig ar y gwyddorau. Mae’r cwrs wedi ei strwythuro i ddarparu cyflwyniad sylfaenol i offeryniaeth, dadansoddi a dehongli data dadansoddol. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng darlithoedd ‘cysyniadau allweddol’ sy’n arwain at sesiynau labordai cysylltiedig. Mae’r pwyslais yn bendant iawn ar ddarparu

profiad ymarferol yn y defnydd o bob un o’r dulliau dadansoddol canlynol: Uwch fioled/ Delweddu, Radiocemeg, Cromatograffeg Haen Denau, Cromatograffeg Nwy, Cromatograffeg Hylifol Pwysedd Uchel, electrocemeg sylfaenol, Meintioli metelau ac anfetelau, diffreithiant pelydr-x ac electronau, Is-Goch, sbectrometreg fas, cyseinedd magnetig niwclear, a Defnyddio Cyfuniad o Dechnegau.

FXC1106 Labordy Cemeg 1 10 credyd Semester 1

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o arbrofion sy’n ymdrin â thri phrif faes cemeg, sef cemeg anorganig, organig a ffisegol. Dewisir yr arbrofion er mwyn i’r myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cemeg arbrofol ac i oleuo’r cefndir theoretig yr ymdrinnir ag ef yn ystod modiwlau darlithoedd cemeg.

FXC1107 Labordy Cemeg 2 10 credyd Semester 2

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o arbrofion sy’n ymdrin â thri phrif faes cemeg, sef cemeg anorganig, organig a ffisegol. Gan fod y cwrs yn barhad ar FXC1106, dewisir yr arbrofion er mwyn datblygu ymhellach y prif sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cemeg arbrofol ac i oleuo’r cefndir theoretig yr ymdrinnir ag ef yn ystod modiwlau darlithoedd cemeg.

FXC1111 Medrau Cyfrifiannu ac Astudio 10 credyd Semester 1

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau cemegol allweddol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni cemeg e.e. lluniadu cemegol sylfaenol a’r gofynion cyfrifiannu sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni cemeg. Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy – gwneud nodiadau, ysgrifennu, dulliau chwilio am wybodaeth ac adolygu.

FXC1112 Medrau Mathemateg ar gyfer Cemegwyr 10 credyd Semester 1

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i fathemateg a sut y cymhwysir mathemateg ym maes cemeg: rhifyddeg sylfaenol

COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL

-ffracsiynau, aildrefnu hafaliadau; plotio data a ffwythiannau; calcwlws.

FXC1113 Cemeg ar Waith 1 10 credyd Semester 1

Cydofynion: FXC1101

Mae’r modiwl hwn yn atgyfnerthu’r cysyniadau sylfaenol a enillwyd yn FXC1101 mewn cemeg anorganig (priodweddau cyfnodol, siapiau moleciwlau gan ddefnyddio VESPR), organig (grwpiau gweithredol, cyfundrefn enwau moleciwlau organig, mecanweithiau adweithiau, saethau cyrliog) a ffisegol (egni arwahanol, bondio a chroesrywedd) drwy sesiynau datrys problemau.

FXC1114 Cemeg ar Waith 2 10 credyd Semester 2

Cydofynion: FXC1103

Mae’r modiwl hwn yn atgyfnerthu’r cysyniadau sylfaenol a enillwyd yn FXC1103 mewn cemeg anorganig (cemeg cyd-drefnol, cemeg metelau trosiannol, pacio solidau a systemau crisialog), organig (grwpiau gweithredol, cyfundrefn enwau moleciwlau organig ehangedig, mecanweithiau adweithiau, FGI) a ffisegol (cineteg a thermodynameg) drwy sesiynau datrys problemau.

FXC0010 Cemeg Hanfodol 10 credyd Semester 1

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad cytbwys i gemeg. Ymysg y pynciau a drafodir yn y darlithoedd y mae: adeiledd atomau a bondio, molau a chyfrifiadau mol, cydbwyseddau cemegol, asidau, basau a pH a byfferau, cyfradd adweithio a chemeg organig sylfaenol (cyflwyniad i grwpiau gweithredol a rhai adweithiau pwysig, isomeredd a chyfundrefn enwau). Ategir y cwrs gan ddosbarthiadau datrys problemau.

Cyswllt : Dr Andrew Davies [email protected]

Ysgol CyfrifiaduregICP1022 Hanfodion Rhaglennu (Programming Fundamentals) 10 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i hanfodion rhaglennu: Mathau o data; strwythurau rheoli; dulliau; araeau; dogfennaeth systematig; mewnbwn / allbwn a gweithio gyda ffeiliau. Mae’r modiwl yn orfodol i pob myfyriwr sydd yn astudio Gwyddor Cyfrifiadurol, Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol a Peirianneg Electronig. Mae’r modiwl yn ymarferol ac yn cael ei asesu yn barhaus. Mae pob asesiad, adborth a chefnogaeth ar gael yn y Gymraeg. Mae sesiynau tiwtorial hefyd ar gael yn ddwyieithog.

ICP1023 Rhaglennu gwrthrych gyfeiriadol (Object Oriented Programming) 10 credyd Semester 2

Bydd y modiwl yn cyflwyno’r dull gwrthrych-gyfeiriadol i weithredu a dylunio meddalwedd, nodweddion uwch o Java (gan gynnwys y Fframwaith Casgliadau Java (JCF) a Rhaglennu generig), ac algorithmau chwilio a didoli. Mae’r modiwl yn orfodol i pob myfyriwr sydd yn astudio Gwyddor Cyfrifiadurol a Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol, ac yn ddewisol i fyfyrwyr Peirianneg Electronig. Mae’r modiwl yn ymarferol ac yn cael ei asesu yn barhaus. Mae pob asesiad, adborth a chefnogaeth ar gael yn y Gymraeg. Mae sesiynau tiwtorial hefyd ar gael yn ddwyieithog.

ICP1029 Rhaglennu hanfodol mewn C (Imperative Programming in C) 10 credyd Semester 2

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i’r iaith raglennu C wrth drafod damcaniaethau sylfaenol a rhoi phrofiad ymarferol o raglennu hanfodol, yn enwedig rheoli a strwythurau cof cyfrifiadur. Mae’r modiwl yn orfodol i pob myfyriwr sydd yn astudio Gwyddor Cyfrifiadurol a Peirianneg Electronig. Mae’r modiwl yma yn ymarferol ac yn cael ei asesu yn barhaus. Mae pob asesiad, adborth a chefnogaeth ar gael yn y Gymraeg.

Cyswllt : Dr Llyr ap Cenydd [email protected]

26 27

Page 17: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Ysgol Peirianneg ElectronigNid oes modiwlau Cymraeg/Dwyieithog ar gael ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf ar hyn o bryd, ond mae’r modiwlau isod ar gael ar gyfer myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn.

IEW2005 Cylchedau Digidol 2 10 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y modiwl Digital Circuits 1 gan roi sail ddamcaniaethol gadarn i’r broses o gynllunio cylchedau dilyniannol cydamseredig ac anghydamseredig. Bydd myfyrwyr hefyd yn dechrau astudio pensaernïaeth cylchedau digidol ar gyfer rhifyddeg cyfrifiadurol. Dysgir y modiwl yn ddwyieithog ar y cyd gyda’r modiwl IES2005 Digital Circuits 2.

IEW3098 Project Unigol MEng 40 credyd Semester 1 a 2

Bydd myfyrwyr ym mlwyddyn 3 y cyrsiau MEng yn gwneud project unigol sylweddol. Gall myfyrwyr ddewis project sy’n cael ei oruchwylio gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, a thrwy hynny drafod eu gwaith project yn y Gymraeg trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai yn dewis hefyd i gwblhau’r traethawd hir yn y Gymraeg.

IEW3099 Project Unigol Electroneg 30 credyd Semester 1 a 2

Bydd myfyrwyr ym mlwyddyn 3 y cyrsiau BEng a BSc yn yr ysgol yn gwneud project unigol 30 credyd. Gall myfyrwyr ddewis project sy’n cael ei oruchwylio gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, a thrwy hynny drafod eu gwaith project yn y Gymraeg trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai yn dewis hefyd i gwblhau’r traethawd hir yn y Gymraeg.

Cyswllt : Dr Iestyn Pierce [email protected]

COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL

28

Page 18: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

Gloywi Iaith Cyrsiau ac adnoddau i helpu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl i ddod yn fwy hyderus wrth siarad ac ysgrifennu. Cyrsiau paratoi at y Dystysgrif Sgiliau Iaith hefyd ar gael.

Cyfieithu Cyfieithu traethodau myfyrwyr a chyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

Technolegau Iaith Meddalwedd Cysgliad i’ch helpu gyda gramadeg, geirfa a sillafu ac Ap Geiriaduron am ddim.

Cynllunio Gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yma i’ch helpu i ddefnyddio’r Gymraeg

CANOLFANBEDWYRYN CEFNOGI GWAITH CYFRWNG CYMRAEG YN Y BRIFYSGOL

Hefyd ar gael LlawlyfrGloywi Iaith

Am fwy o wybodaeth:www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr @canolfanbedwyr

Page 19: MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG - Bangor

4053

8 7

_15