2014-15 Swansea Concerts

12
Swansea Concerts • Cyngerdd Abertawe 2014-15 BBC National Orchestra and Chorus of Wales Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

description

 

Transcript of 2014-15 Swansea Concerts

Page 1: 2014-15 Swansea Concerts

Swansea Concerts • Cyngerdd Abertawe2014-15

BBC

Nat

iona

l Orc

hest

ra a

nd C

horu

s of

Wal

esC

erdd

orfa

a C

horw

s C

ened

laet

hol C

ymre

ig y

BBC

Page 2: 2014-15 Swansea Concerts

Brangwyn Hall has re-opened its doors! The Orchestra can’t wait to take their seats in the beautiful hall with its magnificent British Empire Panels adorning the walls.

We have a very exciting season in-store for audiences in Swansea and we hope you can join us! The first performances back at Brangwyn Hall will be part of the Swansea Festival of Music & the Arts.

‘Piano at the Brangwyn’ under the baton of Thomas Søndergård gets underway in February with Benjamin Grosvenor playing Beethoven’s First Piano Concerto.

There are also two opportunities to bring the whole family this season. In October the ever-popular Family Concert series comes to Swansea for the first time, followed by Christmas Celebrations in December.

See you at the Brangwyn!

Mae Neuadd Brangwyn wedi agor ei drysau drachefn! Mae’r Gerddorfa’n ysu am gael mynd i’w seddi yn y neuadd hardd a Phaneli godidog yr Ymerodraeth Brydeinig yn addurno’i pharwydydd.

Mae gennym dymor hynod o gyffrous yn aros cynulleidfaoedd yn Abertawe a gobeithio y gallwch chi ddod aton ni! Rhan o Wyl Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Abertawe fydd y perfformiadau cyntaf pan awn yn ein holau i Neuadd Brangwyn.

Mae ‘Piano yn y Brangwyn’ o dan faton Thomas Søndergård yn cychwyn ym mis Chwefror a Benjamin Grosvenor yn chwarae Concerto Piano Cyntaf Beethoven.

Y tymor yma mae yna ddau gyfle hefyd i ddod â’r teulu i gyd. Ym mis Hydref daw’r gyfres fythol-boblogaidd Cyngherddau Teulu i Abertawe am y tro cyntaf, wedyn Dathlu’r Nadolig ym mis Rhagfyr.

Welwn ni chi yn y Brangwyn!

WELCOMECROESO

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Page 3: 2014-15 Swansea Concerts

BBC PROMS IN THE PARK WITH BRYN TERFEL • PROMS YN Y PARC Y BBC GYDA BRYN TERFELSaturday • Sadwrn 13.09.14, 7.45pmSingleton Park, Swansea • Parc Singleton, Abertawe

Conductor • Arweinydd Tecwyn EvansBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Dig out your flags, pack your picnic, and join us for an open-air concert celebrating the Last Night of the Proms! Grammy Award-winning Welsh bass-baritone Bryn Terfel will headline at this years event. Also appearing on the night is young singer-songwriter Casi from Bangor, who has been collaborating with BBC Cymru Wales and Arts Council of Wales as part of the Horizons music project. The Welsh singing stars will perform with the BBC National Orchestra and Chorus of Wales, led by conductor Tecwyn Evans. The evening will culminate in the traditional sing-along; this year featuring a Mary Poppins medley.

Tyrchwch eich fflagiau, pacio’ch picnic a dod aton ni i gyngerdd awyr agored i ddathlu Noson Ola’r Proms! Bryn Terfel, y bariton-bas o Gymro ac enillydd gwobr Grammy, fydd ar ben y rhaglen yn y digwyddiad eleni. Ar y noson gwelwn hefyd Casi, y canwr a chyfansoddwr caneuon ifanc o Fangor, a fu’n cydweithredu â BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o’r cywaith cerdd Gorwelion. Bydd y sêr canu o Gymru yn perfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, dan arweiniad Tecwyn Evans. Penllanw’r noson fydd y morio canu traddodiadol, eleni’n fedlai Mary Poppins.

TICKETS

TO C Y N N A

U

Page 4: 2014-15 Swansea Concerts

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

New York composer John Corigliano has set three major poems by Dylan Thomas for large vocal and orchestral resources, with all the colour and appeal of his award-winning film scores. Richard Elfyn Jones’ overture, similarly, shows off the full resources of organ and orchestra.

Mae’r cyfansoddwr o Efrog Newydd, John Corigliano, wedi gosod tair o gerddi pwysicaf Dylan Thomas i adnoddau lleisiol a cherddorfaol mawr, gyda holl liw ac apêl ei sgoriau ffilm gwobredig. Mae agoriad Richard Elfyn Jones, hefyd, yn arddangos adnoddau llawn yr organ a’r gerddorfa.

SWANSEA FESTIVAL OF MUSIC & THE ARTS • GWYL ABERTAWE I GERDD A’R CELFYDDYDAU Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Saturday • Sadwrn 11.10.14, 7.30pm Richard Elfyn Jones Brangwyn Festival Overture for Organ & Orchestra • Agorawd Gwyl Brangwyn i Organ a Cherddorfa John Corigliano A Dylan Thomas Trilogy

Conductor • Arweinydd Grant Llewellyn Baritone • Baritôn Roderick WilliamsTenor Robin TritschlerOrgan Thomas TrotterBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBCMembers of • Aelodau o BBC Singers

FAMILY CONCERT • CYNGERDD TEULU Friday • Gwener 17.10.14, 7pm Introduced and conducted by • Arweinydd a chyflwynydd Grant Llewellyn

Join the Orchestra for a whistle-stop tour of popular classics and music for TV and film, conducted by Grant Llewellyn. Come along from 6.15pm for pre-concert entertainment, including the chance to try out instruments from the orchestra.

Ymunwch gyda’r Gerddorfa am wibdaith o glasuron poblogaidd, cerddoriaeth teledu a ffilm dan arweiniad Grant Llewellyn. Dewch o 6. 15 ymlaen i fwynhau adloniant cyn-cyngerdd, yn cynnwys siawns i dreio’ch llaw ar offerynnau’r gerddorfa.

TICKETS

TO C Y N N A

U

TICKETS

TO C Y N N A

U

Page 5: 2014-15 Swansea Concerts

CHRISTMAS CELEBRATIONS • DATHLU’R NADOLIGFriday • Gwener 19.12.14, 7.30pm Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Conductor • Arweinydd Edwin Outwater

Packed full of festive treats, enjoy highlights including Leroy Anderson’s Sleigh Ride, music from the frost tale of Rimsky-Korsakov’s The Snow Maiden and sing-along to all your Christmas favourites.

Treat your friends and family to an early Christmas present – sure to get you all into the Christmas mood. Come and join the celebrations!

Dyma noson yn heigio o bethau da, gan gynnwys Sleigh Ride Leroy Anderson, cerddoriaeth o hanes iasoer Y Forwyn Eira Rimsky-Korsakov a gewch chi forio canu eich holl ffefrynnau Nadolig.

Rhowch anrheg Nadolig cyn pryd i’ch ffrindiau a’ch teulu – gael i chi i gyd fynd i hwyliau’r Nadolig. Dewch heibio ac ymuno yn y miri!

Family Tickets £12.50 for 1 adult & up to 2 children

£18 for 2 adults & up to 4 children

Tocynnau Teulu£12.50 am 1 oedolyn a hyd at 2 o blant

£18 am 2 oedolyn a hyd at 4 o blant

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Enjoy Christmas music and entertainmentCael blas ar gerddoriaeth a difyrrwch Nadolig

TICKETS

TO C Y N N A

U

Page 6: 2014-15 Swansea Concerts

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

BEETHOVEN & MOZART Wednesday • Mercher 4.2.15, 7.30pm Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Haydn Symphony No 28 • Symffoni Rhif 28 Beethoven Piano Concerto No 1 • Concerto Piano Rhif 1 Mozart Symphony No 41 • Symffoni Rhif 41 ‘Jupiter’

Conductor • Arweinydd Thomas Søndergård Piano Benjamin Grosvenor

Young British pianist Benjamin Grosvenor has been dazzling audiences worldwide since his appearance on BBC Young Musician in 2004, when he was just eleven. We welcome him back to Swansea for his first collaboration with Thomas Søndergård, and a performance of Beethoven’s first piano concerto.

Byth ers iddo ymddangos ar Cerddor Ifanc y BBC yn 2004, pan oedd yn ddim ond un mlwydd ar ddeg, mae’r pianydd ifanc o Brydain Benjamin Grosvenor yn syfrdanu cynulleidfaoedd drwy’r byd yn grwn. Estynnwn groeso’n ôl iddo i Abertawe i gydweithio â Thomas Søndergård am y tro cyntaf mewn perfformiad o concerto piano cyntaf Beethoven.

6.30pm

Talk: In the words of BBC NOW playersSgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa'r BBC yng Nghymru

Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at y cyngerdd yma, ac iddo naws wirioneddol glasurol, ac ynddo Symffoni Rhif 28 Haydn a Symffoni Rhif 41 Mozart, ‘Jupiter’. Thomas Søndergård

I’m particularly looking forward to this concert, which has a truly classical air, with Haydn’s Symphony No 28 and Mozart’s Symphony No 41, ‘Jupiter’. Thomas Søndergård

TICKETS

TO C Y N N A

U

Page 7: 2014-15 Swansea Concerts

TCHAIKOVSKY & SHOSTAKOVICHThursday • Iau 12.3.15, 7.30pm Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Tchaikovsky Concerto for Piano No 1 • Concerto Piano Rhif 1 Shostakovich Symphony No 10 • Symffoni Rhif 10

Conductor • Arweinydd Thomas Søndergård Piano Igor Levit

For the second concert in our piano series, we welcome Igor Levit for Tchaikovsky’s

thrillingly romantic first piano concerto. Little did Tchaikovsky know, when composing its recognisable opening chords, that he’d created a work that would become the first classical song to sell a million records.

Hear it alongside Shostakovich's tenth symphony, widely considered to depict Stalin's rule of Russia.

Ar ail noson ein cyfres piano, rhown groeso i Igor Levit ar gyfer concerto piano cyntaf gwefreiddiol o ramantaidd Tchaikovsky. Bychan a wyddai Tchaikovsky, pan oedd yn sgrifennu ei gordiau agoriadol trawiadol, iddo greu gwaith a ddeuai’r gân glasurol gyntaf i werthu miliwn o recordiau.

Fe’i clywch ochr yn ochr â degfed symffoni Shostakovich, y mae llawer yn tybio ei bod yn darlunio teyrnasiad Stalin dros Rwsia.

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

6.30pm

Talk: In the words of BBC NOW playersSgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyr Cerddorfa'r BBC yng Nghymru

TICKETS

TO C Y N N A

U

Page 8: 2014-15 Swansea Concerts

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

THE PLANETS Friday • Gwener 17.4.15, 7.30pmBrangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Finzi Clarinet Concerto • Concerto ClarinétHolst The Planets

Conductor • Arweinydd Martyn BrabbinsClarinet • Clarinét Robert PlaneBBC National Chorus of Wales • Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Undoubtedly Holst’s most popular work, his evocative and powerful Planets suite depicts the characteristics of Earth’s neighbours in the solar system. It’s paired with Finzi’s Clarinet Concerto, a soulful and virtuosic work performed by the Orchestra’s Principal Clarinet Robert Plane.

Does dim dwywaith nad The Planets ydi gwaith mwyaf poblogaidd Holst, yn gyfres fywiog a grymus sy’n tynnu llun priodoleddau cymdogion y Ddaear yn y gyfundrefn heulog. Mae’n gymar Concerto Clarinét Finzi, gwaith eneidfawr a phencampwriaethol a berfformir gan Brif Ganwr Clarinét y Gerddorfa Robert Plane.

6.30pm

Astronomical Extravaganza: Explore the stars with BBC NOWStrafagansa Seryddol: Fforiwch y sêr yng nghwmni Cerddorfa'r BBC yng Nghymru

TICKETS

TO C Y N N A

U

Page 9: 2014-15 Swansea Concerts

VIVE LA SWANSEA • VIVE L’ABERTAWE Friday • Gwener 15.5.15, 7.30pm Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Ravel BoléroLalo Symphonie EspagnoleSaint-Saëns Symphony No 3 • Symffoni Rhif 3 ‘Organ’

Conductor • Arweinydd Xian Zhang Violin • Ffidil Chloë HanslipOrgan Thomas Trotter

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Exceptional young violinist Chloë Hanslip returns to the Orchestra alongside conductor Xian Zhang, as we take a musical journey through France, with a hint of Spanish influence.

Ravel’s Boléro sets the scene perfectly, with its stirring rhythms and atmospheric melody. Chloë will take to the platform for Edouard Lalo’s Symphonie Espagnole and we finish with Saint-Saëns's third symphony. On the composition of his third symphony Saint-Saëns proclaimed “what I have here accomplished, I will never achieve again”, anticipating his final journey into the symphonic form, and one which encapsulated all that he was as a musician, most notably with his addition of the organ to composition.

Daw’r ffidler ifanc eithriadol Chloë Hanslip yn ei hôl at y Gerddorfa ochr yn ochr â’r arweinydd Xian Zhang pan awn ar daith gerddorol drwy Ffrainc ac arni arlliw o ddylanwad Sbaen.

Mae Boléro Ravel a’i rythmau gwefreiddiol a’i alaw llawn awyrgylch yn creu’r olygfa i’r dim. Chloë fydd ar lwyfan yn Symphonie Espagnole Edouard Lalo a down I ben yn nhrydedd symffoni Saint-Saëns. Pan gyfansoddodd ei drydedd symffoni meddai Saint-Saëns ar goedd “ni chyflawnaf fyth eto’r hyn a gyflawnais yma”, yn argoeli ei hynt olaf yn y ffurf symffonig, hynt a grynhodd ei holl hanfod fel cerddor, yn anad dim ychwanegu’r organ at y cyfansoddiad.

6.30pm

Talk: In the words of BBC NOW playersSgwrs: Yng ngeiriau chwaraewyrCerddorfa'r BBC yng Nghymru

TICKETS TO C Y N N A

U

Page 10: 2014-15 Swansea Concerts

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

BEETHOVEN & BRUCKNER Friday • Gwener 12.6.15, 7.30pm Brangwyn Hall, Swansea • Neuadd Brangwyn, Abertawe

Beethoven Piano Concerto No 3 • Concerto Piano Rhif 3Bruckner Symphony No 8 • Symffoni Rhif 8

Conductor • Arweinydd Thomas Søndergård Piano Stephen Hough

The exhilarating Stephen Hough returns to the Brangwyn Hall for our season finale, alongside Beethoven’s third piano concerto – one of Thomas Søndergård’s favourite works. Stephen’s performances have gained a glowing reputation for brilliance and elegance, and we eagerly await his visit. We complete the season with Bruckner’s intense final symphony, his eighth. Bruckner didn’t live to complete his ninth symphony, but in his intense and tumultuous eighth he wrote some of his most breathtaking music.

Fel chwa o awyr iach daw Stephen Hough yn ei ôl i Neuadd Brangwyn at ddiweddglo ein tymor, yn nhrydydd concerto piano Beethoven – un o hoff weithiau Thomas Søndergård. Mae canmol mawr ar Stephen am draddodi perfformiadau disglair a chain ac edrychwn ymlaen yn frwd at ei ymweliad. Terfynwn y tymor â Symffoni olaf ddwys Bruckner, ei wythfed. Ni fu fyw Bruckner I gwblhau ei nawfed symffoni, ond yn ei wythfed ddwys a therfysglyd sgrifennodd beth o’i gerddoriaeth fwyaf syfrdanol.

6.30pm

Pre-concert talkSgwrs cyn y cyngerdd

TICKETS TO C Y N N A

U

Page 11: 2014-15 Swansea Concerts

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Brangwyn Hall, Swansea 01792 475715 | swanseagrand.co.uk

Tickets £10-16

Tickets £12-20, Students £6-10

Tickets £15, Family Tickets from £12.50

Swansea Grand Theatre applies a Booking Fee of £2.50 per online transaction. Tickets paid for by credit card are subject to a 2% Credit Card Fee. No fee applies to tickets bought in person and paid for by debit card, cheque or cash.

BBC Proms in the Park 03700 10 10 51 | bbc.co.uk/proms

Tickets £10 in advance, £14 on the day Children aged 12 and under go free

Neuadd Brangwyn, Abertawe 01792 475715 | swanseagrand.co.uk

Tocynnau £10-16

Tocynnau £12-20, Myfyrwyr £6-10

Tocynnau £15, Tocynnau Teulu o £12.50

Mae Theatr y Grand Abertawe yn codi Tâl Archebu o £2.50 y pryniant ar lein. Mae Tâl Cardiau Credyd o 2% am docynnau y talir amdanynt â cherdyn credyd. Does dim tâl am docynnau a godir yn bersonol ac y talir amdanynt â cherdyn debyd, siec neu arian parod.

Proms yn y Parc y BBC 03700 10 10 51 | bbc.co.uk/proms

Tocynnau £10 ymlaen llaw, £14 ar y diwrnod Plant 12 oed ac iau yn cael mynd am ddim

Discover More

This season we introduce Discover More to our concerts, a series of talks, events, open rehearsals and more, all designed to get you closer to the music.

All Discover More events are free for concert ticket holders, just call the Audience Line to reserve your space on 0800 052 1812.

Darganfod Mwy

Y tymor yma byddwn yn cyflwyno Darganfod Mwy i’n cyngherddau, cyfres o sgyrsiau, digwyddiadau, ymarferion agored a mwy, i gyd wedi’u llunio er mwyn i chi glosio at y gerddoriaeth.

Mae digwyddiadau Darganfod Mwy am ddim i ddeiliaid tocynnau cyngherddau, does rhaid i chi ond rhoi caniad i’r Llinell Cynulleidfaoedd ar 0800 052 1812 i gadw’ch lle.

Call the BBC National Orchestra of Wales Audience Line FREE on 0800 052 1812

No fees apply to tickets bought through the BBC National Orchestra of Wales Audience Line.

Rhowch ganiad i Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC AM DDIM ar 0800 052 1812

Does dim tâl am godi tocynnau drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

BOOKING INFORMATION GWYBODAETH AM GODI TOCYNNAU

Page 12: 2014-15 Swansea Concerts

BBC National Orchestra & Chorus of Wales, BBC Hoddinott Hall, Cardiff Bay, CF10 5AL Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, CF10 5AL

0800 052 1812 bbc.co.uk/now

2014-15 Season • Tymor

Sat • Sad 13.09.14 7.45pmBBC Proms in the Park • Proms yn y Parc y BBC

Singleton Park • Parc Singleton

Sat • Sad 11.10.14 7.30pm Swansea Festival • Gwyl AbertaweBrangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Fri • Gwe 17.10.14 7pm Family Concert • Cyngerdd Teulu Brangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Fri • Gwe 19.12.14 7.30pmChristmas Celebrations • Dathlu’r Nadolig

Brangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Wed • Mer 04.02.15 7.30pm Beethoven & MozartBrangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Thu • Iau 12.03.15 7.30pm Tchaikovsky & ShostakovichBrangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Fri • Gwe 17.04.15 7.30pm The PlanetsBrangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Fri • Gwe 15.05.15 7.30pm Vive La Swansea • Vive L’AbertaweBrangwyn Hall • Neuadd Brangwyn

Fri • Gwe 12.06.15 7.30pm Beethoven & BrucknerBrangwyn Hall • Neuadd Brangwyn